91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Getta (Margaretta Griffiths) Portread o Getta
Ionawr 2003
Portread o Getta, (Margaretta Griffiths) un o gymeriadau lleol pentref Cwmfelin Mynach.
"Siaradwch y gwir yn dawel a chlir ; gwrandewch ar eraill, hyd yn oed y di-nôd a'r anwybodus, mae ganddynt hwy hefyd eu stori." Desiderata (1692)

"Uffem Gett, beth sy' 'mlân 'da ti nawr?" Pa faint o weithiau y clywodd Getta y cwestiwn hwnnw o enau ei gwr William? Ond nid oedd dim malais yn y geiriau - dim ond ffordd o siarad rhwng dau oedd yn deall ei gilydd ar ôl blynyddoedd o gyd-fyw. Ni fyddai byth yn ei alw yn Wil, roedd William yn swno'n fwy soffistigedig, er na wyddai Getta, mae'n siwr ystyr y gair ! Ie, "William by name, Will by inclination." Soniai amdano gyda balchder ac roedd William ni' yn dipyn o arwr iddi. " Ma William ni wedi prynu moto-beic newy'' am bedair punt ! Ma William ni ........

Talp o ddiniweidrwydd gwledig oedd Getta. Perthynai iddi ryw naïfrwydd a oedd yn gwneud hi'n hawdd i'w thwyllo. Eto, roedd ynddi gadernid syml a gonestrwydd tawel. Roedd hi a William yn byw ar dyddyn bach y Felin ynghanol y pentref. Bachan digon rwff oedd William, a'i iaith yn glasu'r awyr ar adegau, a'i siarad yn garlamus. Tynnwr coes wrth bwffian ar ei bib yng nghlawdd y feidir neu o dan gronglwyd y shime fawr. A sôn am y shime fawr, yno, wrth edrych i fyny drwyddi y gwelais y sêr yn disgleirio ac ar ambell noson aeafol ger y tanllwyth tân y cesair yn tasgu a sïo ar y pentan poeth.

Yn aml roedd rhyw greadur bach gwantan mewn bocs ger y tân - rhyw gywion bach, neu fochyn bach neu wyn bach yn cael sylw arbennig Getta. Gwelais un oen swci yn dal i fad yn y ty ac yntau erbyn hynny yn hwrdd!

Roedd Getta yn wraig foch-goch, serchog ond roedd gwaith caled wedi crymu ei chefn. Getta oedd yn slafo, William yn ordro. Collodd bump o blant ar eu genedigaeth ond ganwyd mab iddynt o'r diwedd er mawr lawenydd iddi hi a William. Gweithiai fel dyn ac roedd ôl llafar caled arni.

Gwair y Felin
Uchafbwynt y flwyddyn i ni blant y pentref oedd gwair y Felin. Fe ai criw ohonom at y Prifathro gan swatio tu ôl y ferch fwyaf yn y pentref, a byddai hin gofyn iddo. Gwair y Felin today syr. Can we go home early? Os byddair Prifathro mewn hwyliau gweddol (ac nid oedd hynnyn digwydd yn aml) byddain nodio ei ben, ac i ffwrdd â ni fel anifeiliaid gwyllt dros y filltir a hanner ir cae gwair gan dwmlo drwyr iet.

Uchafbwynt y dydd oedd cael reid ar y llwyth cart olaf o wair yn cael ei dynnu gan geffyl i lawr y rhiw beryglus at fferm y Felin. Rhaid oedd rhoi blociau dan yr olwynion cyn cyrraedd y tro rhag ofn ir ceffyl ar cart redeg bant. Profiad brawychus felys. Ynar te yng nghysgod y sied wair ar haul yn dwym ar ein coesau, a breichiau cymdeithas glos on cwmpas. Gwyn ein byd.

Y diwrnod hwnnw 'roedd rhyw falchder swil yn Getta wrth weld pawb yn y pentref yn dod lawr i'w fferm fach hi i helpu ac i gael te. Hi oedd brenhines yr ydlan am ychydig oriau, a gwnâi yn fawr or profiad. Roedd hyd yn oed William yn gwybod ei le ar ddiwrnod gwair y Felin. Cwympodd Getta unwaith o ben y llwyth gwair. Trwy drugaredd ni chafodd anaf a gofynnodd rhyw wag o'r pentref iddi y noson honno, "Shwt ma'r cart Getta?

Pan oedd ei mam yng-nghyfraith yn ei gwaeledd olaf cerddai Getta nôl ac ymlaen i fyny ac i lawr ar hyd y cae o'i chartref ir bwthyn ddwsinau o weithiau, ddydd a nos. Roedd ôl ei haberth yn lwybyr coch ar hyd y cae - aberth ddirwgnach, di-sôn amdano.

Wrth weld Getta yn hala'r da i'r glowty, rhacanur gwair ar ddydd o haf neu'n cerdded o gwmpas y pentref yn gwerthu llaeth, ychydig o fobol a fedrai gredu fod y wraig eiddil hon wedi mynd trwy brofiad dychrynllyd pan oedd yn ifanc. Adroddodd y stori wrth fy mam sawl tro ac roedd yn ail-fyw y cyfnod hunllefus hynny dro ar ôl tro.

Getta yn dyst mewn achos llofruddiaeth.
Pan oedd Getta neu Margaretta Griffiths (y pryd hynny) yn 19 oed yn 1920 roedd hi'n gweithio fel morwyn yn y Cross Hands Hotel oherwydd deuai Getta yn wreiddiol o'r Tymbl. Tra yn gweithio yno canfuwyd gwraig y gwesty, Mary Jenkins yn farw yn ei gwely. Dyn cas iawn oedd gwr Mary ac un a feddai ar dymer wyllt ofnadwy yn enwedig yn ei gwrw, ac ymosodai ar ei wraig yn aml. Darganfuwyd yn fuan nad marw yn naturiol a wnaeth Mary Jenkins ond bod rhywun wedi ei lladd drwy ei llindagu. Roedd gwasgfa ar ei gwddf wedi achosi tagfa ac roedd tri chylch yn y corn gwddwg wedi'u torri.

Ceisiodd Griffith Jenkins, gwr Mary roi'r bai ar Jac Jones a oedd yn lletya yn y gwesty. Gweithio yn y pwll glo gerllaw a wnâi Jac a helpai ar y fferm oedd yn gysylltiedig â'r gwesty pan oedd angen.

Getta druan oedd y prif dyst yn y cwest gan mae hi oedd yr olaf i weld Mary'n fyw. Traddodwyd Jenkins i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Caerfyrddin ar Ddydd Mawrth, Tachwedd 9, 1920. Croesholwyd Getta yn galed iawn nifer o weithiau yn ystod yr achos ond daliodd at y gwir. Roedd tystiolaeth Getta yn farwol yn erbyn Jenkins a dedfrydwyd ef i 5 mlynedd o benyd wasanaeth. Yn ystod y croesholi llewygodd Getta nifer o weithiau oherwydd nid oedd yn berson cryf ac effeithiodd y cyfan yn fawr ar ei hiechyd ar hyd ei hoes.

Cyfarfu Getta a'i gwr William yn ardal y Tymbl ond ar ôl priodi symudodd y ddau yn ôl i ardal Llanboidy/Cwmfelin Mynach lle buont yn byw am flynyddoedd nes ymddeol. Symudasant nifer o weithiau cyn setlo yn y Bryn, Llwyndrain. Pan fu farw Getta, aeth fy nhad oedd yn gefnder i Will fyny i gydymdeimlo â William a'i fab Ernie. Gofynnodd William i nhad, "Lice ti'i gweld hi ? " Atebodd fy' nhad yn gadarnhaol. Wrth sefyll yno yn edrych ar Getta yn ei harch geiriau Will i nhad oedd, Ond yw hin bert, Tom?

Mae'r ddau nôl ym milltir sgwâr eu hieuenctid erbyn hyn yn gorwedd ym mynwent Ramoth, Cwmfelin Mynach. Shalom!

Rhoswen Llewellyn


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý