91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Mari Jones ac Angharad Lewis. Eisteddfod Powys y Trallwm
Tachwedd 2009
Hanes Eisteddfod Powys a gynhaliwyd yn y Trallwm yn ystod mis Hydref.

Rydw i yn un o'r bobl hynny sy'n credu mai mewn pabell yng nghanol yr haf y dylid cynnal Eisteddfod Powys.

Am wahanol resymau, a'r rhai hynny'n gwbwl ddilys, rwy'n prysuro i ddweud, y duedd ddiweddar yw i'r eisteddfodau hyn gael eu cynnal mewn neuaddau a theatrau yn nhymor yr Hydref.

Tra'n dyheu am fynd yn ôI i'r hen drefn fedra' i ddim meddwl am hyfrytach Ileoliad na Theatr Clera.

Mae'n amlwg fod y cystadleuwyr a'r gynulleidfa wedi manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau rhagorol oedd i'w cael yno.

Cael bod yna ddigon o bobl ifanc yn cymryd rhan yw un o'r arwyddion sicraf o Iwyddiant unrhyw eisteddfod ac yn sicr fe gafwyd hynny eleni gyda chefnogaeth deilwng o Ysgolion Uwchradd y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion.

Roedd sglein ar gystadlaethau'r dysgwyr yn arbennig.

Chredwch chi ddim and clywais rhywun yn cwyno fod yr Orsedd yn fwy o drafferth nag o werth. Ond rhaid dweud i seremoniau'r Orsedd gael eu cynnal gyda graen ac i'r Derwydd Gweinyddol wneud ei waith gydag urddas arbennig.

Mae yna rywbeth i'w ddweud hefyd dros gymryd rhan mewn seremoni heb fod yn annhebyg i'r un y bu Eben Fardd ynddi yn 1824.

Go brin y byddai'r Eisteddfod wedi goroesi o gwbl heb yr Orsedd. Roedd rhywun yn cael y teimlad mai criw cymharol fychan oedd wrth y Ilyw yn y Trallwm eleni er bod cymdeithas ehangach y dre a'r fro wedi chwarae ei rhan.

Ond felly mae pethau ym mhobman fe ymddengys, hyd yn oed yn ein hardaloedd Cymreiciaf. Efallai mai'r uchafbwynt i mi oedd gweld Sioned Elin Hughes yn cael ei choroni.

Roedd rhywbeth yng ngeiriau Sioned Davies, y beirniad, yn awgrymu ein bod yn gwobrwyo gwaith o gryn safon.

Ein gobaith yw y bydd gyrfa lenyddol Sioned Elin Hughes yn ddisgleiriach nag un Eben Fardd hyd yn oed, a'i bod hi wedi cychwyn yn Eisteddfod Powys.

Ffion Bevan, Caerdydd, oedd Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Trallwm. J.R. Jones, Meifod, oedd yn cymryd rhan yn ystod seremoni'r Coroni ar y nos Wener. Jones ac Elen Davies yn ystod seremoni'r Cadeirio.

Llongyfarchiadau i Elen am ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Canu Emyn dros 60.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý