Ar ôl dros tair mlynedd o fyddaru trigolion y fro a gwrandawyr Radio Cymru, mae'r band yn gwahanu am y tro am fod Bryce Graham yn cyfnewid gitar am geufad (kayak) ac yn ymadael am Alpau'r Eidal.
Yn agor y noson oedd y band newydd Sbardun. Gosodwyd safon uchel gan Carwyn. Alex, Mabon a Huw, gan adael rhai yn ystyried sut y gallai Gwiber wella ar berfformiadau'r perfformwyr cynhaliol.
Nesaf ar y llwyfan oedd Ex Nihilo, ac ymatebodd y gynulleidfa yn dda i'w steil drom o gerddoriaeth. Yr act gynderfynol oedd 'Keep Away From Fire' a syfrdanwyd y dorf o 82 gyda sgiliau Ileisiol Liam Dixon wrth i'r band roi spin newydd ar rai o glasuron Roc âRôl.
Agorwyd y set efo 'covers' bandiau fel Queens of the Stone Age, cyn i Man, Tom, Bryce a Callum symud ymlaen i rai o glasuron Gwiber, yn cloi'r noson efo perfformiad epig o 'Golau'.
Roedd y noson yn un benigamp, gyda gwledd o 'moshio' yn y goleuadau strôb, a rhai o'r merched yn dechrau addoli with draed Iwan. Wrth i'r band adael y llwyfan, galwodd y dorf am fwy, ac ni chawsant eu siomi, gyda Gwiber yn dychwelyd am encore.
Hoffai'r band ddiolch i Bwyllgor Neuadd y Banw am gael defnyddio'r neuadd, i Meilir Evans, Rob Worth a Charles Whalley am eu cymorth.¬technegol ac i Manon Lewis a Del Robinsonam wau y cyfan at ei gilydd! Braf oed gweld ieuenctid yr ardal yn mwynhau diwylliant Cymraeg.
|