91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Dafydd Evans Pennaeth newydd
Mehefin 2008
Myfanwy Alexander yn cyflwyno pennaeth newydd Ysgol Uwchradd Caereinion, Dafydd Evans.

"Ar Ebrill 29ain 2008, agorwyd cyfnod newydd yn hanes Ysgol Uwchradd Caereinion pan gafodd Dafydd Evans ei benodi fel pennaeth.

Roeddem ni, fel Llwyodraethwyr, yn falch iawn i weld fod y swydd wedi denu ymgeiswyr rhagorol ac, ar ôl proses gymhleth, manwl a thrylwyr, roedd y penderfyniad yn unfrydol.

I ni sy wedi bod yn ddigon ffodus i nabod David ers blynyddoedd, dydy ei lwyddiant ddim yn yn syndod: mae ganddo rinweddau unigryw a sgiliau rhyngbersonol heb eu hail. Rydym ni, fel aelodau cymuned Ysgol Uwchradd Caereinion, yn meddwl bod ein hysgol yn arbennig ac mae'n hawdd iawn dod o hyd i dystiolaeth i gadarnhau ein barn: ar ôl ymchwil y Sunday Times yn 2006, roedd Caereinion yn un o'r ysgolion cyfun gorau ym Mhrydain, efo'r canlyniadiau yn well 'na phob Ysgol Bonedd yng Nghymru.

Ond, yn bwysicaf hyd yn oed na'r safonau academaidd, mae cymuned agos a chyfeillgar i'w chael yn Ysgol Caereinion, gyda thîm o staff rhagorol a gofal i bob disgybl.

Mae David wedi gwneud cyfraniad mawr i'r Ysgol dros y blynyddoedd, fel athro, Pennaeth Adran Cymraeg, Dirprwy ac yn ddiweddar, fel Pennaeth Gweithredol:mae o'n deall yr awyrgylch arbennig sy'n wneud gymaint o les i'n plant ni.

Mae'r ysgol yn agos iawn at ein calonnau ni ac, fel pob ysgol arall, mae Caereinion yn wynebu cyfnod heriol. Diffyg cyllid, newidiadau cwricwlwm a'r sialens o ddarparu addysg ddwyiethog mewn ardal wledig: 'In Tray' digon llawn sy gan y Pennaeth newydd. Pan roeddem ni'n cychwyn chwilio am rhywun i arwain yr ysgol i'r dyfodol, roedd 'na hen gan yn atseinio yn fy mhen o hyd. Canodd Bonnie Tyler: `Holding out for a Hero' a phan welais y rhestr o sgiliau sy'n hanfodol i Bennaeth heddiw, mi sylwais pa mor brin yw arwyr!

Mae gweledigaeth yn bwysig, and agosatrwydd hefyd. Mae'n rhaid i'r Pennaeth ddeall athroniaeth ac arweiniad addysgol diweddaraf ac adnabod pawb yn BI 7 fel person. Mae amynedd, parodrwydd a sgiliau rheoli pobl yn hanfodol and mae Pennaeth efo gwên ar ei wyneb yn cyfri' mwy weithiau na thomen o waith papur.

Cymeriad hoffus yw David, dyn gofalgar a deallus tu hwnt a choeliwch fi, mae'r Llywodraethwyr yn gwybod yn iawn pa fath o `Superstar' sy gennym ni. Pennaeth newydd rhagorol i ysgol ragorol: mae Ysgol Uwchradd Caereinion yn wynebu'r dyfodol gyda hyder ac egni - rhaid cadw i fyny efo Dai!

Llongyfarchiadau i ti, Dai - a phob dymuniad da yn y swydd!"

Ysgrifenwyd yr erthygl gan Myfanwy Alexander, Cadeirydd y Llywodraethwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý