Ym mis Mai eleni gofynnodd Hywel y mab, sydd â golwg gwael imi, "Wnei di abseilio tuag at y deillion?" Ni chymerais lawer o sylw ohono. Fis yn ddiweddarach gofynnodd imi eto. "Wel, o'r gore te", medde finne, "mi wna i, tyrd imi glywed y tâp yna i weld pa bryd a beth sydd ei angen".
Cefais y manylion a ffurflenni noddi gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Mae'r Gymdeithas yn rhoi gwasanaeth i dros 3000 o bobl ddall a rhannol ddall mewn chwech Sir yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Sir Drefaldwyn. Maent yn recordio llyfrau llafar Cymraeg a phapurau llafar. Mae angen codi arian fel hyn oherwydd bod llai o bobl yn gadael eu harian i'r gymdeithas yn eu hewyllysiau y dyddiau yma.
Byddant yn defnyddio yr arian i ddatblygu gwasanaethau megis: llyfrau, gwasanaeth adfer, rhoi cyngor a gwybodaeth a darparu offer arbennig i ddeillion.
Dyma fynd ati i geisio noddwyr. Dechreuais mewn priodas yn y Foel, roedd y cwpwl hapus wedi cael y gwasanaeth ym Mhistyll Rhaeadr, Llanrhaeadr ym Mochnant. Gofyn i aelodau yr eglwys ac i'm cymdogion. Roeddwn yn casglu noddwyr ym mhob sioe, pwyllgor, yn y farchnad anifeiliaid, yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug, noson ganu gwlad, Merched y Wawr y Foel, caffi, y feddygfa, Wynnstay Farmers yn Llanfair Caereinion, yr ATB lleol, Siop Foel ac ym mhenwythnos Merched y Wawr yn Bangor. Roeddwn yn teimlo yn eitha' digywilydd ar brydiau a chefais lawer o arian heb ofyn amdanynt.
Beth bynnag daeth y diwrnod mawr sef Medi 23, 2007. Daeth bws mini a chefnogwyr i fyny o'r ardal. Roedd yn rhaid bod yno erbyn hanner awr wedi un i gofrestru. Roedd rhaid ymgynnull wrth droed y tŵr i gael cyfarwyddiadau a gwisgo'r gwregys a chap caled er diogelwch. Roedd deuddeg yn cymryd rhan, roedd pedwar yn mynd i fyny'r tŵr ar unwaith, yn yr ail 'hêt' oeddwn i. Wel i fyny â fi, un cant a phymtheg o stepiau a dyna fi ar ben y tŵr, roedd yn ddiwrnod hyfryd a'r olygfa yn fendigedig o bob cyfeiriad. I Edrychais i lawr a rhoddais 'royal wave' i'm ffrindiau a theulu oedd yn edrych yn fach o'r fan honno. Daeth yn amser canolbwyntio'n ofalus.
Roedd y cyfarwyddwr yno a dechreuodd wrth glymu'r rhaffau wrth y gwregys, yna dringo dros y reiliau. Sefyll ar yr ochr allan a gafael yn dynn yn y rheiliau, y llaw chwith i afael yn y rhaff a'r llaw dde o tucha iddi, a gofalu cadw'r dwylo yn glir o'r clipiau haearn. Gadael i'r pen - ôl fynd yn is i lawr na'r traed, erbyn hyn roeddwn wedi gollwng y reliau gan afael yn dynn yn y rhaffau. Symud y traed bob yn fodfedd i lawr darn cyntaf y tŵr a gadael i'r rhaff fynd drwy'r dwylo yn araf a rheolaidd. Yna cerdded yn ysgafn â'r traed i lawr ochr y tŵr, roedd yn deimlad ysgafn a hyfryd.
Cyrraedd y gwaelod a'r camerâu yn fflachio a minnau yn teimlo'n falch ac yn hapus dros ben. Roeddwn wedi edrych ymlaen at y fenter ac rŵan roeddwn wedi cwblhau'r weithred. Drwy haelioni pawb a' m noddodd, cesglais £1,721. Diolch o galon i bawb a'm cefnogodd.