Fy nhaith i ben draw'r byd: rhan 1
Fe adawais fyd cyfarwydd yr Aussies a hedfan i Singapore yn gyntaf. Lle anhygoel o lân, cyfeillgar ac andros o boeth!Er bod pawb wedi dweud wrthyf am y glanweithdra amlwg oedd yno, cefais andros o sioc wrth weld waliau gwyn sgleiniog y trên tanddaearol o'm cwmpas heb unrhyw graffiti! Mae gennym le i ddysgu yn amlwg!
I Wlad Thai yr es i nesa, gwlad hynod o dlws! Talu £2 am ystafell neis mewn hostel; wnes i ddim cwyno mae hynny'n sicr! I dref Phuket yr es i gynta, a dal bws (trailer!) yn llawn o bobl Thai at y traeth. Traeth Patong oedd un o'r llefydd a gafodd ei daro waethaf yn ystod trychineb erchyll y Tsunami nôl yn 2004. Ond, yr unig awgrym bod tsunami erioed wedi bod yno bellach yw'r holl arwyddion rhybudd ger y traeth yn dweud wrth bawb am redeg at y safleoedd saff! Cefais ymweld â Phang-Nga, sef ynys enwog 007. Yma cafodd "The Man with the Golden Gun" ei ffilmio. Rhyfeddol o dlws! Cefais fynd ar gefn eliffant ac ychen...a bum yn ddigon lwcus i brofi fy 'nhai massage' cynta...gan eliffant!
Yn dilyn ynys enwog Bond, fe es i ynys enwog Leonardo DiCaprio lle cafodd "The Beach" ei ffilmio. Mae'n ddigon hawdd gweld yr atyniad at greu'r holl ffilmiau yma! Yn wir, paradwys oedd ynys Phi Phi. Ond yn anffodus, mae effaith y Tsunami wedi gadael tolc go sylweddol yno. Mae llawer o'r gwestai, y cwmnïau ac yn y blaen yn dal i ddioddef colled aruthrol yn dilyn y digwyddiad. Mae gwaith adeiladu yn mynd ymlaen dros yr ynys sydd yn gadael rhyw deimlad go drist yn yr aer...ond er hyn, mae'r bobl leol yn dal i wenu ac yn benderfynol o ymladd a chario ymlaen, er mae'n siŵr eu bod wedi colli canran go uchel o'u teuluoedd. Fe es i ar gwch hir o gwmpas yr ynys a gwylio'r haul yn machlud. Anhygoel! Fe es i hefyd i ynys Ko Tao, ac aros mewn gwesty andros o neilltuedig, ymhell o brysurdeb gweddill yr ynys. Cefais snorclo, bwyta bwyd Thai anhygoel o flasus ac ymarfer rhigolaeth eu dawns tan...dwi'n 'pro' ar hyn bellach...hmmmm!
Roedd Bangkok yn ddinas wych, y prysurdeb yn amlwg. 'Hustle a bustle' ymhob cornel! Cael ein deffro gan geiliog - yn union fel yr oeddwn wedi dychmygu fyddai'n digwydd! Fe es i weld crandrwydd y Palas enfawr, yr holl Buddhas, a galw mewn i ambell siop a marchnad ar y ffordd!
Gadael Bangkok wedyn am Chiang Mai i drecio am dri diwrnod. Ar y dechrau roedd pawb yn hapus reit, rhai yn canu, eraill yn chwibanu, a rhai yn sgipio ar hyd y ffordd...ond doedd hyn ddim am bara... bob yn un fe ddechreuodd bawb wneud ffrind agos newydd... gyda'r tŷ bach! (wel y twll yn llawr y cwt!) Ond doedd dim troi yn ôl! Cerdded wedyn yn y glaw difrifol (roedd yn union fel dŵr o'r injian dân!) trwy'r mwd a'r lleither a sleidio trwy gaeau'r rice paddies â'r leeches yn cydio'n sownd yn ein coesau!
Tra ar y trec hwn, roeddem yn aros yng nghartrefi llwythi cyntefig, y llwyth Lahu a'r llwyth Karen, profiad digon swreal! Cawsom fynd ar rafft bambŵ^ hefyd, ac er bod y siwrnai gyfforddus, esmwyth hon i fod i gymryd rhyw ddwy awr a hanner, oherwydd y glaw llethol, dim ond ugain munud a gymerodd i ni! Roedd hyn yn fwy fel rafftio'r dŵr gwyllt ond ar gefn bambŵ^!
Drwy lwc, fe wnaethom wella ar ôl gorffen y trec, ac aethom i ymweld â mynachod lleol Chiang Mai. Cael siarad â nhw am eu credoau, eu bywyd a'u teimladau. Hynod o ddiddorol. Yna hedfan dros y ffin am Luang Prabang yn Laos. Roedd Laos mor wahanol i Thailand, bob dim mor wyrdd a ffres, y coed yn garped prydferth dros yr holl le. Tref fechan drefedigaethol Ffrengig oedd Luang Prabang, y strydoedd yn llawn marchnadoedd a'r mynachod yn eu gwisgoedd llachar oren yn llenwi'r lle! Ond roedd y tywydd mor annioddefol o boeth, roedd rhaid i ni fod nôl yn ein hystafelloedd 'air-conditioned' cyn ganol dydd!
Rwyf bellach yn arbenigwr ar gwcio cwisin Laos! Fe es i'r ysgol gwcio a chael dysgu am y gwahanol fwydydd, y technegau gwahanol o gwcio a'r offerynnau cyntefig maent yn dal i'w defnyddio!
Yn dilyn llonyddwch Laos, cefais eithaf sioc o ran diwylliant wrth gyrraedd Hanoi yn Fietnam. Mae Hanoi, a'r rhan fwyaf o Fietnam yn swniog, ofnadwy o brysur ac yn y bôn, crazy! Mae'r ffyrdd yn hollol orffwyll - pawb yn anwybyddu pob arwydd, pob croesfan sebra a hyd yn oed ambell i olau coch! Wrth groesi'r ffordd, roedd rhaid i ni obeithio am y gorau a jest mynd! Er hyn, cefais amser wrth fy modd yn Fietnam ac i ddweud y gwir, mae'r wlad hon yn uchel iawn ar restr fy ngwledydd gorau!
Yn y gogledd wrth Hanoi doedd dim llawer o sôn am ryfel creulon y ganrif ddiwethaf, ond wrth drafeilio tuag at y de, roedd modd gweld bynceri, ardaloedd a gafodd eu bomio ac olion ymladd yn bur aml. Yn Ho Chi Minh (Saigon) fe es i ymweld ag Amgueddfa'r Rhyfel (War Remnants Museum) oedd yn hynod o ddiddorol, ond yn amlwg yn drist iawn. Roedd cael gweld y lluniau erchyll yn frawychus, a'r lluniau o'r dioddefwyr 'Agent Orange' yn ofnadwy o dorcalonnus. Fe es i hefyd i weld Twneli 'Cu Chi' sef system o 200km o dwneli a gysylltai â'i gilydd lle roedd y Fietnamiaid yn cuddio yn ystod y rhyfel. Roedd yn rhaid i ni fynd ar ein gliniau a chropian i mewn i un o'r twneli am ryw ddeg munud! Andros o glawstroffobig - roedd dod allan a gweld golau dydd yn eithaf rhyddhad!
Fe adewais Ho Chi Minh ar hyd y Mekong Delta tuag at Phnom Penh, prifddinas Cambodia. Teimlwn fod Cambodia yn wlad anhygoel o bositif er gwaetha'r bywyd erchyll a gafodd y trigolion nôl yn y saithdegau. Fe es i ymweld â'r Caeau Lladd (Killing Fields) lle roedd y bobl wedi cael eu claddu mewn beddi anferth yn ystod teyrnasiad y gormeswr Pol Pot. Yn ystod ei gyfnod, cafodd bron ddwy filiwn o bobl eu lladd, allan o boblogaeth o saith miliwn! Roedd y caeau lladd yn anhygoel o 'eerie' a digalon ac roedd gweld beddi a'r miloedd o benglogau wedi eu rhoi mewn tŵr yn ddigon i ddod â deigryn i lygaid y caleta' yn ein mysg.
Ar ôl hyn, fe aethom i Amgueddfa hil-laddiad 'Tuol Sleng'. Hen safle'r 'concentration camp' yn ystod teyrnasiad y Khmer Rouge oedd hwn. Rhwng 1975 a 1979, cafodd oddeutu 17,000 o bobl eu carcharu yma. Roedd dwysedd y lle mor gryf a difrifol - teimlad dychrynllyd. Yn wir roedd cael gadael arswyd Pol Pot ar fy ôl yn rhyddhad, ond yn bendant, ni wnaf fyth anghofio'r hanes na'r teimlad truenus oedd yn y lle.
Fe es i wedyn i ymweld â Themlau'r Angka temlau crand, enfawr oedd wedi cael eu hadeiladu gan y Brenhinoedd rhwng yr unfed ganrif ar ddeg a'r drydedd ganrif ar ddeg. Roedd y mwyaf a'r un sydd wedi ei chael orau, yr Angkor Wat, yn anhygoel o dlws. Fe godais am 4.30 y bore er mwyn cael gweld haul yn codi dros Angkor Wat...waw waw waw!
Roedd y plant yn Cambodia yn hollol anhygoel - eu tric bach nhw oedd gofyn i bob ymwelydd "where are you from?" - finnau yn ateb yn ôl, heb ddisgwyl unrhyw ymateb pellach, "Wales"...y sioc a glywais wedyn allan o gegau'r plant ifanc (rhai dim hŷn na phum mlwydd oed) oedd "I know your capital. Cardiff, now you buy from me!"! Clefar to be?!
Tseina oedd y bymthegfed wlad a'r un olaf i ymweld â hi ar fy nhaith. Cefais amser arbennig yno, a Mam yn dod allan i'm gweld ar fy mhythefnos ola'. Fe wnaethom gerdded 10km hyd y Wal (Great Wall) -gwell nag unrhyw sesiwn yn y gampfa, coeliwch chi fi! Yr olygfa fythgofiadwy!
Fe aethom i ymweld â'r 'Terraccota Warriors eithaf rhyfeddod! A chael mordaith i lawr afon Yangtze i weld Argae'r Tri Ceunant. Prosiect andros o glefar yn sicr!
Rwyf nôl adre' bellach ac wedi cael amser wrth fy modd. Rwyf wedi bod mor ffodus i gael gweld cymaint o ryfeddodau, cael cwrdd â phob math o bobl, a chael gweld pethau anhygoel o dlws, trist a llawen. Yn bendant, bydd atgofion y deg mis diwethaf yn aros yn fy nghof am byth! Ond mae'n neis bod nôl... does unman yn debyg i gartref wedi'r cwbl!
Sarah Vaughan
Diolch i Sarah am rannu'r profiadau anhygoel yma gyda darllenwyr y Plu