Cefais y cofnod cyntaf o'r wennol yn dychwelyd gan Tom Bebb, Yr Hendre, Llanfair a welodd un ar Ebrill yr ail. Erbyn y degfed o'r mis roedd Ivy ar y ffôn ar ôl gweld un ger ei chartref ym Melan yr Argae, a gwelodd John Roberts, Caergof un drannoeth. Mae'r hen ddywediad "un wennol ni wna Wanwyn" yn hollol wir, oherwydd oerodd y tywydd ac ni welwyd rhagor ohonynt tan tua'r ugeinfed o'r mis, pan gynhesodd ychydig. Clywodd Gwyn Rees y Gog yn canu ym mhen uchaf Cwm Twrch ar Ebrill y deunawfed ac roedd yn bwrw eira ar y pryd. Dyma'r tro cyntaf ers blynyddoedd na chefais alwad ffôn o Gaerbellan, Llanerfyl. Dywed naturiaethwyr fod rhifau'r adar yn prinhau; edrychwn ymlaen at gael clywed y ddeunod pan fydd y tywydd yn cynhesu. Erthygl gan Alwyn Hughes Ydych chi wedi clywed y wennol neu'r gog eto eleni? Cyfrannwch eich sylwadau chi isod.
|