91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Swyddfa Post Llanefyl Gŵr Llysmwyn yn Poeni!
Chwefror 2006
Daeth newyddion drwg i bentref Llanerfyl. Mae siop y pentref a'r swyddfa bost i gau yn y misoedd nesaf.

Heb os, y newyddion mwyaf syfrdanol i'n taro yn ystod y mis ac ar ddechrau blwyddyn (calennig gwael iawn i bentref Llanerfyl) oedd y newydd fod Swyddfa Bost a Siop Llanerfyl i gau ddiwedd Chwefror a'r Swyddfa Bost ddechrau mis Ebrill.

Cofiaf am yr 'hylabalw' rai blynyddoedd yn ôl (a phwy a ŵyr na chawn yr un broblem eto gyda phedwar deg o ysgolion bach Powys dan y chwyddwydr) pan fu bygythiad i Ysgol Llanerfyl.

Wel drigolion, mae'r newyddion yma mor fygythiol i ddyfodol eich pentref ac yr un mor niweidiol - y siop a'r swyddfa bost yw calon y pentre, ohoni hi y daw'r curiad sydd yn cadw'r pentre yn fyw. Ac ni fydd yn hawdd cael trawsblaniad wedi i'r 'galon' hon orffen! Ac os nad yw'n rhy hwyr, deffrwch i'r bygythiad marwol hwn.

Bu Emrys yn rhan o'r pentre am flynyddoedd lawer ac yn rhan o'r 'ffabrig' pentrefol "yn gwybod pob dim, yn gwneud pob dim ac yn gwerthu pob dim", i aralleirio Adnod 7 o bennod 13 Corinthiaid 1 ac yr oedd, neu y mae Sandra yn brysur ddysgu yn yr un mowld.

Mae Sandra i'w chanmol yn fawr am ei hymdrechion ac i ddweud y gwir yn blaen, mae'n haeddu gwell ymdriniaeth na hyn. Ddyweda i ddim rhagor na hynny! Ond "winc, winc, nudge, nudge", 'dech chi'n gwybod be dwi'n feddwl!!

Ie, pentre i basio trwyddo fydd Llanerfyl wedi'r tranc. Trist iawn, iawn.

Erthygl gan Emyr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý