Dydd Sadwrn 24ain o Ionawr 2004 yng Nghyfarfod Blynyddol Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys yn y Trallwm cyflwynwyd anrheg i Mr Trefor Owen, Trallwm gan y Cadeirydd, Parch John Pinion Jones, am ei waith amhrisiadwy am ugain mlynedd fel Cofiadur. Cyfansoddwyd yr englynion gan y Prifardd Emrys Roberts a'u hysgrifennu a'u fframio gan Mr R.O. Hughes, Llanfyllin. Diolchwyd hefyd iddo gan Talog (y Derwydd Gweinyddol) am ei waith a bod wrth law yn y Seremonïau pan oedd angen. Ymhen dwy flynedd bydd yn dechrau ar ei swydd fel Derwydd Gweinyddol. Dyma ddau o'r englynion: I gynnal Gŵyl ein talaith yn wyddfid 0 'Steddfod heb fratiaith  Trefor taer ei afiaith, - Gwawdio hil yw gwadu iaith.  gwên fel naws plurgweunydd, ein Trefor Tan goron ysblennydd Yw'r bos cyfeillgar, a bydd Yn ddihareb o Dderwydd.
|