Bu i Aled Wyn Jones, Tynbraich, Dinas Mawddwy gneifio 600 o ddefaid mewn ychydig dros ddeg awr. Dywed Glyn Caerlloi (perchennog y defaid) mai 'nod Aled oedd cneifio 500 yn ystod y dydd ond cafodd gymaint o hwyl arni nes cneifiodd y swm anhygoel yma o 600! Rydym yn gobeithio codi rhwng 2-3 mil o bunnoedd", meddai Glyn Caerlloi. "Mae pobl a busnesau lleol wedi bod yn hael iawn ac mae'n dyled ni yn fawr i Gwmni Wynnstay sydd, mewn cydweithrediad â Janson Animal Health a Pifzer, wedi rhoi £500.00 - diolch i Emyr Wyn Jones". Mae Marie Curie yn elusen syn cyflogi hyd at 200 o nyrsys i ofalu am gleifion sy'n marw o ganser. "Roedd tipyn o ffrindiau Aled wedi dod i'w gefnogi ar y diwrnod a hoffwn ddiolch i Eirian a'i mam, Cari, am wneud bwyd mor ardderchog drwy'r dydd, hefyd i Christine am y mefus ar hufen. Diolch hefyd i Aled Dolymaen am gael defnyddio'r sied ac i bawb arall a fu mor barod i helpu" meddal Glyn. Os hoffai unrhyw un roi tuag at y gronfa hon yna cysylltwch â Glyn Caerlloi (01938 820200) neu Aled, Tynbraich (01650 531517).Yn y llun gwelir Aled yn cneifio gyda'i dad Wyn, Alun Daniel a Gareth Daniel yn ei gefnogi.
|