Bu disbgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion yn brysur yn perfformio eu sioe 'Un Dydd Mwy' yng Nghanolfan Hamdden Caereinion nos Fawrth y pedwerydd o Ebrill a nos Fercher y pumed o Ebrill. Roedd y ganolfan dan ei sang y ddwy noson. Cafodd y gynulleidfa wledd o gerddoriaeth a dawns gan y disgyblion gwir dalentog hyn a berfformiodd ddetholiad o ganeuon o'r sioeau 'Oliver' a Les Miserables' mor egniol ac mor broffesiynol. Roedd safon canu ac actio'r côr a'r unawdwyr o'r radd flaenaf a chrewyd argraff arbennig gan Alex Davies fel Oliver, Rebecca Jones a Steffan Jones fel Fagin, Georgina Graham fel Nancy, Steffan Lowther fel yr Artful Dodger a Carwyn Owen fel Charlie. Cyflwynodd y disgyblion hyn nifer o eitemau o'r sioe Les Miserables sy'n heriol iawn ynddi'i hun o safbwynt yr aeddfedrwydd a'r emosiwn sydd eu hangen i gyfleu dwyster rhai o'r golygfeydd. Roedd perfformiad Catrin Wyn Williams o'r gân 'I dreamed a dream' yn llesmeiriol a'i llais dir fall cloch yn atseinion oddi ar y parwydydd. Roedd portread Ceri
Jones a Dafydd Francis yng nghân y tafarnwr yn ysbrydoledig, yn dod â hiwmor ac ysgafnder i'r cynhyrchiad a'u hamseru yn gwneud i'r cyfan ymddangos yn rhwydd iawn. Cafwyd perfformiad hynod gofiadwy o 'On my own' gan Lynwen Roberts a'i chanu'n llawn dwyster teimlad. Daeth Gerallt Davies i ben yn wych gyda'r gân 'Stars' gan arddangos rheolaeth leisiol arbennig a chryn deimlad yn y canu. Swynwyd pawb gan berfformiad angerddol Mared Edwards a Guto Lewis o 'A little fall of rain' hefyd.
Cyfarwyddwyd y sioe gan Mrs Heulwen Davies, Mrs Gwyneth Davies, Mrs Anwen Orrells, Miss Ffion Jones a Mrs Jane Evans. Dymuna'r ysgol ddiolch i'r holl ddisgyblion a'r staff a weithiodd mor galed ar y cynhyrchiad gan ddiolch hefyd i lanto Guy, Edward Ringrose a Ken Hughes am eu cymorth technegol.
|