Mae pedair blwyddyn gron wedi diflannu ers i fois y Cut Lloi floeddio eu 'Henffych Well' ar gryno ddisg am y tro cyntaf.
Mae gŵr y Pentyrch wedi troi ei sylw at bethau amgenach, a gwalltiau y gweddill wedi britho, teneuo neu ddiflannu'n gyfan gwbl.
Mae'r boliau cwrw wedi gorchfygu, a dim ond Arabs, Fferm a Goetre allai ffitio'n esmwyth i siwtiau cyfyng y 'Men Aloud'!
Er hynny fe barha merch benfelen y Gardden yn ysgafn, gosgeiddig a hardd, er bod y Ilygaid yn pallu yn raddol fel y dirywia'r olygfa sy'n ymddangos o'i blaen bob nos Fawrth yn neuadd y Llan .
Parhau hefyd mae'r miri a'r hwyl a gawn yng nghwmni ein gilydd, ac a rannwyd gyda thrigolion Washington dros yr haf.
Mae gobaith am drip i Lydaw a gwyl fawr Lorient yr haf nesaf - and disgwyl ydym o hyd am wahoddiad i ddiddanu y cyfryngis a'r 'celebs' ar Ian Afon Taf.
Efallai ein bod yn rhy ariannol ein naws. Gwerinol, hapus, braf yw ein cynulleidfaoedd hefyd. Pobl glen, cefn gwlad.
Mae ambell i hen gymeriad annwyl wedi troi ei sylw at helynt y 'Dyn Bach, Bach a'i Wraig Fawr, Fawr' dros y blynyddoedd ac mae'r cof yn frith am Garadog Puw, Ned Hywel ac Eddi Roberts yn adrodd eu hanes - 'ers talwm'.
Mae'n haeddu ei lie ar glawr y gryno ddisg ddiweddaraf. Mae blas y pridd arni ac ar weddill y caneuon a recordiwyd rai wythnosau yn ôl yn neuadd y Llan. Ein hetifeddiaeth ydynt, caneuon i'w trysori a'u mwynhau dros dro cyn eu trosglwyddo i do newydd o Loi bach addawol sy'n brysur ganlyn with ein sodle. Fe fu lansiad swyddogol yn y Cut Lloi yng ngwesty Cann Offis nos Lun 7fed o Ragfyr.
|