"Yn anffodus clywir am ddamweiniau angeuol ar y ffordd yn aml, ond tybed faint ohonoch sy'n gwybod am ddamwain a ddigwyddodd ger Llanfair bron i ganrif yn ôl?
Bu farw dau berson ifanc wrth geisio croesi'r Afon Banwy yn ymyl Plas Eithnog ddechrau Rhagfyr 1912. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Mr David Jones, Glan yr afon am dynnu fy sylw at yr hanes, a diolch iddo hefyd am gael benthyg copi o'r adroddiad a ymddangosodd yn y Montgomeryshire Express and Radnor Times, Rhagfyr 10fed, 1912 ynghyd â'r llun gwych o'r bobl yn sefyll o flaen Eithnog.
Yn ôl yr hanes roedd Mr a Mrs R.O. Crewe-Read a'u teulu wedi symud i Eithnog ers tua pedwar mis. Roedd rhai gweision a morynion wedi symud yno gyda hwy, ond roedd eraill o'r staff yn byw yn lleol.
Ar y pnawn Llun dan sylw, fe benderfynodd y gyrrwr (chauffeur) Betram Ashcroft, a'r forwyn parlwr Jennie Vaughan y byddent yn dal y trên bach a oedd yn mynd o Lanfair i'r Trallwm.
Oherwydd fod yr orsaf gryn siwrne i ffwrdd yn Llanfair, roedd cwch yn cael ei ddefnyddio i groesi'r Afon Banwy islaw Eithnog. Roedd weiren ffens blaen wedi'w chysylltu o boptu'r afon, ac aeth y cwch ar draws drwy dynnu'r weiren tra'n eistedd yn y cwch.
Mae'n debyg fod llif uchel y diwrnod hwnnw, ond er gwaethaf hyn, fe benderfynodd y ddau i geisio croesi"r afon.
Roedd Mary Ann Thomas, Tanybryn wedi clywed sŵn sgrechian a phan edrychodd drwy'r ffenest gwelodd ddau berson yn mynd dros y "weier" ac fe redodd i Felin Dolrhyd i geisio cael cymorth.
Dechreuwyd edrych am y ddau yn syth, ond ni ddaethpwyd o hyd i gorff tan y dydd canlynol.
Daeth David Jones a Joseph Astley o hyd i gorff y forwyn mewn llwybr samon tua milltir i lawr yr afon. Darganfuwyd corff y gyrrwr rhai dyddiau'n ddiweddarach tra roedd y cwch wedi cael ei ddarganfod gerllaw Meifod, tua chwe milltir i ffwrdd.
Roedd y forwyn Jennie Vaughan yn 22 oed, yn ferch i Richard Vaughan o Ford, Alberbury, Sir Amwythig ac roedd i briodi ymhen mis. Claddwyd hi ym mynwent Cegidfa a gwnaed yr arch, ynghyd â'r trefniadau angladdol gan Mr Astley, Llanfair. Daeth Bertram Ashcroft 27 oed, o Frome yng Ngwlad yr Haf ac roedd newydd adael y fyddin cyn dod i Eithnog gyda theulu'r Crewe-Read.
Cynhaliwyd gwrandawiad (inquest) yn yr ystafell fwyta yn Eithnog deuddydd ar ôl y ddamwain, ble gwrandawyd ar dystiolaeth. Dywedodd Mr Crewe-Read ei fod yn Llundain ar y pryd; a dywedodd hefyd ei fod wedi rhybuddio ei staff nad oeddent i groesi'r afon os oedd llif mawr.
Penderfynwyd yn y diwedd fod Miss Vaughan a Mr Ashcroft wedi marw drwy foddi'n ddamweiniol. Awgrymwyd hefyd y dylid gosod y weiren yn uwch i fyny'r afon a sicrhau ei bod yn cael ei chlymu'n saffach.
Ni wyddom yn sicr pwy yw'r bobl a welir yn y llun a dynnwyd yn 1912. Dic Goodwin, Station Road, garddwr Eithnog sydd gyda'r daeargi ar y chwith a 'Nain Rowlands' o Stryd Wesle yw'r drydedd o'r chwith - hi oedd y gogyddes. Mae'n bosib mai aelodau'r teulu Crewe-Read a welir ar y dde. Ni wyddom pwy dynnodd y llun - gall fod yn J.W. Ellis, Llanfair. Diolch o galon unwaith eto i David am rannu ei wybodaeth enfawr gyda mi."