Mae Heulwen wedi bod yn arweinydd corawl Aelwyd Penllys ers dros bymtheg mlynedd bellach ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth y côr cymysg mawr a bach, y côr meibion a'r parti merched i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sawl tro.
Fe ddyfernir Tlws John a Ceridwen Hughes yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru. Noddir y tlws yma yn flynyddol gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr. Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg sy'n waith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed a thu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol. Heulwen wedi rhoi dros bymtheg mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i ddiwylliant Cymraeg yr ardal ers i arweinydd diwethaf côr Aelwyd Penllys Tegwyn Jones, roi'r gorau iddi yn 1988. Mae'r côr wedi cynnal sawl cyngerdd, cymryd rhan mewn nosweithiau llawen a chystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol ers hynny. Tan y llynedd roedd y côr wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddi-dor ers 1989 - ond maen nhw'n dawel hyderus y byddan nhw ar lwyfan yr Eisteddfod ym Môn ddiwedd yr wythnos hon! Bellach mae Heulwen yn Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, ac mae'n olynu Shân Cothi a Linda Gittins a fu'n benaethiaid yr adran o'r blaen. Mae'n briod â Selwyn ac yn fam i bedwar o fechgyn, Carwyn, Rhys, Gerallt a Rhodri. Cynhaliwyd Seremoni Tlws John a Ceridwen Hughes nos Lun, 31 Mai ar lwyfan Pafiliwn a Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004.
|