Noson i'w chofio
Ymgasglodd cynulleidfa niferus yn Neuadd Llanerfyl, nos Wener, Tachwedd 21 i ddathlu penblwydd y Plu yn ddeg ar hugain oed.
Fe ddechreuwyd y noson drwy gael cipolwg ar rai o'r cannoedd o luniau a ymddangosodd yn y papur ac roedd yn bosib clywed pin yn disgyn wrth i bawb syllu arnynt. Trist oedd gweld nifer o gyfoedion nad ydynt gyda ni bellach, ond cofiwn yn annwyl amdanynt ac am eu cyfraniadau i sicrhau llwyddiant y papur yn ei blentyndod.
Cafwyd cipolwg ar nifer o hen gardiau post a dynnwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Roedd Alwyn yn ddiolchgar iawn am y sylwadau diddorol a ddaeth gan aelodau'r gynulleidfa.
Bu Arwyn Groe yn brysur yn pori drwy hen rifynnau a chafwyd detholiad ganddo o gerddi doniol a dwys a welwyd yn y Plu. Tri yn unig a fu yng ngofal y golofn farddol sef Ivor Baines, Nest Davies ac Arwyn Groe. Diolchwn i'r tri, yn enwedig i Arwyn am ei ymrwymiad ai waith cydwybodol.
Cafodd pawb baned a lluniaeth ysgafn diolch i rai o wragedd caredig y fro cyn gwylio mwy o'r hen luniau a fu yn y Plu. Cefais argraff fod pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac roedd awyrgylch gartrefol, gynnes yno. Dyma ddangos nad oedd rhaid talu cannoedd o bunnoedd i artistiaid neu gorau er mwyn i bobl gael mwynhad!
Diolch i bawb a fu ynghlwm â'r noson mewn unrhyw fodd - os nad oeddech yno, fe gawsoch golled!
Lansio Dwy Gyfrol
Cyhoeddwyd dwy gyfrol fechan i ddathlu penblwydd arbennig ein papur bro. Fel y gwyddom, mae colofn Ann y Foty yn hynod boblogaidd, ond ychydig iawn o gopïau gwreiddiol o'r gyfrol sy mewn bod. Cyhoeddwyd y gwreiddiol gan Sam Ellis, (Pennantwrch gynt) ar ôl iddo ymfudo i'r Amerig yn 1914. Ysgrifennwyd y stori mewn tafodiaeth leol ac mae ynddi gyfeiriadau at gyfnod sy'n ddieithr iawn i ni bellach.
Casgliad o gardiau post sy yn yr ail gyfrol, y rhan fwyaf ohonynt wedi'w cyhoeddi rhwng 1900 a 1920. 'Cofion Cynnes' yw enw'r gyfrol ac mae hen luniau o bob ardal sy o fewn dalgylch y Plu ynddi. Dyma gofnod pwysig o hanes cymdeithasol sy'n ein hatgoffa am y gorffennol a byddant o werth mawr i haneswyr y dyfodol.
Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol diolch i waith caled Paul a Mary Steele, ac maent ar gael yn y mannau isod am dair punt yr un, neu pumpunt am y ddwy - bargen yn wir. Bydd y cyfrolau ar gael o Siop Pethe Powys ac amryw o siopau bach yr ardal neu gan Gwyndaf Roberts ac Alwyn a Catrin Hughes (01938 820594). Nifer gyfyngedig o'r cyfrolau sydd wedi'w cyhoeddi - y cyntaf i'r felin gaiff falu!
|