Pan ddarllenais i lyfr chwe deg mlynedd yn ôl, darllenais stori am ddau ddringwr o Brydain - Mallory ac Irvine. Bu farw'r ddau yn trio cyrraedd copa Everest yn 1924. Os gwn i pam?
Gwelais raglen ar y teledu - roedd Brian Blessed wedi gwneud tair ymdrech i wneud yr un peth. Gwnaeth hyn i mi feddwl y gallwn i fentro gwneud hyn ryw ddydd.
Ond ym mis Gorffennaf 2006 clywais ar Radio 4 fod Prifysgol Llundain yn chwilio am 208 o wirfoddolwyr i bwrpas ymchwil meddygol. Diwrnod yn unig aeth heibio cyn i mi gysylltu â nhw.
Holl bwrpas hyn yw:
Gwella cyfleoedd byw i gleifion mewn gwlad arbenigol
Diffyg ocsigen yn y gwaed
Arolygu sut mae hyn yn effeithio yn feddyliol ac yn gorfforol ar bobl iach a gwneud iddynt gerdded i fyny'r mynydd.
Roedd rhaid i ni gadw'n iach, yfed llawer o ddŵr a cherdded yn araf i fyny'r mynydd. Bu rhaid i ni gerdded i fyny'r Wyddfa o Pen y Gwryd yn cario wyth cilo o offer.
Rhaid oedd cael prawf bod dydd am hanner awr ar ôl ymarfer. Rhaid oedd treulio
hanner diwrnod am 5 diwrnod yn dringo'r mynydd.
Dyma gychwyn y daith
Hedfan o Fanceinion i Nepal ar fy mhen blwydd yn 68 - fy ymweliad cyntaf ag Asia. Mae dinas Kathmandu yn llawn bywyd, llawn traffig, tlodi a thrigolion balch golygus. Daeth 14 o gerddwyr i gyfarfod â'r arweinydd - gŵr â gwybodaeth eang am fynyddoedd dros y byd. Roedd 6 ohonynt yn gweithio yn y byd meddygol.
Hedfan eto mewn awyren fechan i Lukla - profiad arbennig o lanio i fyny'r rhiw ar lanfa gul dim ond 100 llath o hyd! Cyfarfod yno â'r pedwar "Sherpa" a phedwar "iac" oedd i'n helpu a chario popeth bron.
Chewch chi ddim ond manion o'r 17 diwrnod nesaf. Cerdded ar dir oedd yn bonciau a phantiau, tir garw a serth mewn mannau. Roeddem yn cysgu mewn lletyau cyntefig ran amlaf; yn bwyta llysiau, wyau a phasta. Doedd cyfleusterau ymolchi ddim mor ddrwg ag yr oeddem yn ddisgwyl. Roedd y gweithwyr yn garedig; yn barod eu cymwynas. Roedd y tywydd yn boeth ac yn oer bob yn ail; roedd yn anodd anadlu ac aeth pethau yn waeth - roedd yn waith caled newid eich sanau hyd yn oed.
Roedd y pontydd yn siglo ac yn hwyl! - yn croesi afonydd chwyddedig - yn enwedig os nad oedd iac yn dod i'ch cyfarfod!! Roedd gennym arweinydd rhagorol. Roedd un o'r cwmni yn dioddef o salwch mynydd wedi 4 diwrnod. Roedd anadlu yn anodd iawn, a phrofion yn flinderus ond roedd pawb yn cefnogi nail a'r llall ac rydym yma i ddweud y stori!
Roedd y mynyddoedd yn ysblennydd. Yn y camp wrth droed Everest roeddem mewn pabell i ddau ar dir a'i arwynebedd gyda meini enfawr a chreigiau rhydd ar wyneb rhewlif oedd yn gwichian. Cawsom y cyfle i gyfarfod dringwyr 'go iawn' ar eu ffordd yn ôl o'r copa. Yma clywsom y newydd trist am farw dringwyr ar y mynydd y diwrnod hwnnw. Yn ystod y nos, roeddem yn clywed cwymp eira oddi ar y mynyddoedd agosaf. Prin y gallem weld copa Everest o'n gwersyll 17,500 troedfedd gan fod y copa 12,000 troedfedd yn uwch.
Hanner yr amser gymerodd hi i ni ddychwelyd ond roedd yn ymddangos mor galed â'r daith i fyny. Wedyn ymlacio yn y gwesty ac ymweld â'r rhyfeddodau! Hwre!
Mae'r ddelwedd o'r mynyddoedd bendigedig yn dal ar fy nghof; ac rwy'n deall yn awr pam fod pobl ddewr yn peryglu eu bywydau i gyrraedd y mannau uchel hyn. Ond anghofia i byth dragwyddol y siwrne na phobl Nepal a'u balchder a'u hagosatrwydd.
Les Smith
|