Deil yr arferiad o yrru cardiau post pan awn ar wyliau yn boblogaidd iawn. Yn nechrau'r ugeinfed ganrif roedd gyrru cardiau post yn hynod boblogaidd ac roedd llawer o gardiau lleol yn cael eu cyhoeddi. Hoffwn gyfeirio at rai unigolion a chwmnïau oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r cardiau hyn. Un ohonynt oedd John Watkins Ellis (J.W. Ellis, 1870-1920). Roedd ganddo siop yn Stryd y Bont Llanfair a threuliai lawer o amser yn crwydro'r ardal gan dynnu lluniau cyn eu cyhoeddi fel cardiau post. Enghraifft o un o'i gardiau post oedd llun o Gwesty'r Cann Offis, Llangadfan a dynnwyd rywdro rhwng 1900-1920. Cymeriad adnabyddus arall yn Llanfair oedd Levi Jones (1858-1949). Yn ogystal a bod yn bostfeistr yn y dref, roedd ganddo siop ble gwerthai amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg a phob math o bethau eraill gan gynnwys cardiau post. Bu'n ymwneud a llawer o bwyllgorau a chymdeithasau o fewn y dref am gyfnod hir. Cododd dŷ newydd tua 1921 sef Noddfa, Llangynyw, a bu'n byw yno gyda'i ferch, Elsie. Gwelir cerdyn post o Eglwys Llangynyw uchod a gyhoeddwyd gan Levi Jones. Credir mai ef ei hun yw'r dyn sy'n gwisgo'r het ar y dde a'i ferch Elsie sy'n gwisgo'r het ynghanol y llun. Yn ogystal â'r ddau uchod, roedd cwmni yn y Drenewydd yn cyhoeddi cardiau post hefyd. Daeth John a Morley Edward Park o Birmingham yn wreiddiol a chadwent siop yn y Drenewydd. Gwelwyd 'Park for the People Series' ar gefn eu cardiau hwy. Roedd llawer o gystadleuaeth yn y maes cardiau post ac yn ogystal a chyhoeddwyr lleol, roedd cwmnïau cenedlaethol yn cyhoeddi miliynau o gardiau yn flynyddol. Un o'r rhain oedd cwmni Valentines o Dundee yn yr Alban. Roedd ganddynt hwy ffotograffwyr a dynnai luniau lleol cyn eu gyrru i'r Alban i gael eu printio. Mae 'na cerdyn post a gyhoeddwyd gan Valantines yn nechrau'r ganrif ddiwethaf sy'n dangos stryd yn Llanfair, a dynnwyd gan T. Leigh o Abergele. Roedd y cyfnod 1900-1920 yn oes aur y cardiau post. Maent yn cofnodi cyfnod pan nad oedd o luniau ar gael, cyn i'r mwyafrif o bobl fod yn berchen ar gamera. Gwnaeth y Dr W.T.R. Pryce gymwynas fawr drwy gyhoeddi'r gyfrol wych 'The Photographer in Rural Wales', ble gwelir llawer o enghreifftiau o gardiau post lleol ynghyd a gwybodaeth fanwl am y sawl a cyhoeddodd. Tybed a oes gan rhywun hen gardiau post nad ydynt eu hangen bellach? Peidiwch phoeni am eu cyflwr. Hoffwn gyhoeddi rhai ohonynt yn y Plu fel y medrwn gyd-fwynhau delweddau sy'n dystiolaeth wych o'r oes fu yn yr ardal hon. Erthygl gan Alwyn Hughes
|