91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Abernodwydd Cynefin
Tachwedd 2008
Alwyn Hughes yn cofio erthygl gan y diweddar Watcin Evans, Llanwddyn, wrth i 'Plu'r Gweunydd' dathlu pen-blwydd yn 30 oed.

"Pleser yw cael cyfrannu i'r rhifyn arbennig hwn o Blu'r Gweunydd. Treuliais oriau yn ddiweddar yn pori drwy hen rifynnau - pleser pur! Difyr oedd darllen newyddion ardaloedd, edrych ar luniau a darllen cerddi am droeon trwstan. Ond yr hyn a roddodd mwyaf o bleser imi oedd darllen erthyglau a oedd yn llawn atgofion am oes a fu.

Cafwyd portreadau a theyrngedau gwych yn ogystal. Heb amheuaeth, mae'r papur bro yn gyfrwng amhrisiadwy i gofnodi hanes ardal. Un o'r erthyglau a gefais fwyaf o bleser o'i darllen oedd un a ysgrifenwyd gan y diweddar Watcyn Evans, Llanwddyn gyda'r pennawd syml 'Abernodwydd'.

Mae gennyf atgofion clir am Watcin Evans (neu Wat bach i lawer) pan oeddwn yn blentyn yn Llanwddyn. Roedd yn frawd i'r diweddar Mr Dafydd Evans, Ty Capel Llangadfan.

Bu fy nhad yn gweithio llawer gydag ef yn Llanwddyn, ac roedd Watcin yn hoff iawn o frechdan siwgr amser cinio! Cofiwn amdano hefyd fel unawdydd selog mewn plygeiniau gyda'i lais tenor melys.

Un peth a'm trawodd wrth ddarllen yr erthygl oedd safon ei Gymraeg gan mai ychydig iawn o addysg a gafodd. Oherwydd prinder gofod, bu'n rhaid imi gwtogi ychydig ar yr erthygl ond gellid ei gweld yn llawn yn rhifyn 40.

'Pan fyddaf ambell i noswaith yn methu â syrthio i freichiau cwsg fel y dymunwn, be fyddaf yn ei wneud ydi mynd yn ôl am dro i Langadfan, oblegid yno y mae fy ngwreiddiau ac yno y gwelais gyntaf olau dydd, ac i gwmni rhai o'r hen gymeriadau gwreiddiol a doniol a oedd yn bodoli yno yn yr ardal pan oeddwn yn blentyn gartref yn 'Rhydlli'.

Ac i hen ffermdy Abernodwydd yr âf heno, ac i gael ryw giplwg drwy lygad plentyn am yr hyn a gofiaf yn dda am y fferm a'i theulu. Af yn ôl i'r undegau a'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi torri allan, ac yn brysur droi y byd i'r anrhefn mwyaf. Cefais fy magu yng ngolwg yr hen ffermdy, a bûm yno ugeiniau o weithiau, a'm chwiorydd hefyd.

Roedd fy mrawd wedi ei alw i'r Fyddin. Prynai fy mam lawer pwys o fenyn a llaeth yno, a llawer canied o laeth enwyn a gariais i oddi yno. Roedd yno deulu o bedwar, Mrs Rees a'i merch a'r meibion. John Rees neu (John Rhys) fel ei galwem a William Rhys. Yr oeddent yn hynod o groesawgar.

Yr oedd Mrs Rees yn tynnu ymlaen mewn oedran ond yn hynod o siarp o'i hoed, a gwisgai fonet wen bob amser wedi ei chlymu dan ei gen. Ac yr oedd ganddi atebiad siarp a chrafog hefyd ar brydiau, dyna oedd ei ffordd hi, ac mae gennym bawb ei ffordd, ond yr oedd yn garedig iawn.

Roedd y ty yn hynafol iawn a'i do o wellt, a llawr y gegin wedi ei balmantu yn grefftus gyda cherrig gweddol fân, cliced bren oedd i'r drws a bollt pren i'w gloi oddi mewn a simdde lydan agored y gallech weld allan drwyddi.

Cannoedd o weithiau yr edrychais i fyny drwyddi allan i'r gofod wrth fwyta y frechdan o fara gwenith cartre a jam neu fêl arni, a meddyliwn bryd hynny ei bod yn hwylus iawn i Santa Clôs dramwyo drwyddi pe byddai raid iddo alw yno.

Awn yno bob bore Calan i hela calennig a rhoddai Mrs Rees a'i merch yn haelionus i'r drysorfa. Yr oedd cael pisyn chwech neu swllt yn swm aruthrol i blentyn yr adeg honno.

Yna deuai ffair Llanerfyl a chawn eto gyfran ganddynt i gwrdd â'r treuliau. Roedd ffair Llanerfyl yn bwysig iawn gan blant yr ardal. Roedd y brodyr yn ddynion mawr a chydnerth ac oddeutu y canol oed.

John Rhys oedd y rheolwr ar y fferm, ac yn ddyn taclus efo'i waith, ac yn smocio baco shag a William oedd y wagoner ac yn cnoi baco main a oedd i'w gael am saith ceiniog yr owns, ond cododd i naw ceiniog adeg y Rhyfel a bocs o fatsis am geiniog.

Plannai fy nhad datws yn y cae yno, a phan ddeuai William a'r tatws adref yn yr Hydref gofalai fy mam am ddwy owns o faco main yn barod gogyfer â'r amgylchiad.

Fel y dywedais, John Rhys oedd yn trefnu pob busnes, anaml y gwelwyd William ond yn ei ddillad gwaith oddigerth ar y Sul a rhyw gyfarfodydd wythnosol fyddai yng Nghapel Rehoboth.

Ond gan fod y Rhyfel yn ei anterth cafodd William alwad i ymddangos o flaen y Medical Board yn Wrecsam. Ac yn sicr roedd hyn yn un o brofiadau mwyaf ei fywyd, ac er mawr lawenydd iddo cafodd lonydd i fod adref efo'r wedd, ac ni chlywais iddo fod ymhellach na Wrecsam gynt nac wedyn.

Roedd y ddau frawd yn ffyddlon i'r Capel yn Rehoboth a chymerai John Rhys ran yn gyhoeddus ac yn weithgar gyda'r achos yno, a William Rhys yn aelod a gwrandawr. Cyd-gerddai y ddau bob amser i'r Capel a gwisgent bowler hats ar y Sul.

Ac fel mae plant yn sylwi ar bopeth roeddent yn dueddol i symud eu pennau o ochr i ochr wrth gerdded fel y byddai y pen a'r traed mewn perffaith gydgord â'i gilydd, ac fel y gwelwyd ambell gae o wenith wedi aeddfedu a'r tywysenau ym moesymgrymu i'w gilydd gyda'r awel ym mis Awst.

Ond aeth amser yn ei flaen, a newi ddaeth o rôd i rôd. Darfu yr hen deulu o un i un. Symudodd fy rhieni o'r ardal ac euthum innau i wasanaeth rôl gorffen fy ysgol, ac ni fûm wrth yr hen ffermdy byth oddi ar hyn. Prynwyd Abernodwydd gan deulu cyfagos ac fe adeiladwyd ty newydd yn agos i'r hen adeilad. Daeth enw Abernodwydd yn hysbys i'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan oherwydd ei hynafiaeth.

Ac fe'i datgysylltwyd a'i gludo yn rhannau i Sain Ffagan, Caerdydd er cof a chadw i'r oes a ddêl. Ac yn sicr fod cannoedd o bob rhan o Gymru yn ymweld â'r hen dy hynafol.

Bûm yn ymweld â'r hen le rai blynyddoedd yn ôl bellach, a theimlais hiraeth am yr hen deulu gwerinaidd a arferai fyw ynddo. Mae yn hynod o debyg fel ag yr oedd, ond sylwais nad oedd llawr y gegin wedi ei balmantu, ac nid oedd gennyf finnau na menyn na chanied o laeth enwyn i ddod oddi yno mwyach.'"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý