"Cyfeiriais at nifer o awyrennau a ddaeth i lawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd eisoes, a'r tro yma hoffwn gyfeirio at rai bomiau a ffrwydrodd yn yr ardal.
Daeth dau fom i lawr ger fferm Glanllyn, rhwng Llanfair a Dolanog. Digwyddodd hyn ar y penwythnos cyntaf ym Medi 1940. Roedd aelodau'r ROC a wyliai o ben Cae Boncyn, Llanfair wedi gweld parasiwt yn disgyn o'r awyr tua 10.30 o'r gloch ac yna daeth ffrwydriad a deimlwyd dros ardal eang. Yn ôl David Jones, Llanfair roedd y bom yr hyn a elwid yn 'aerial mine' a bwysai tua mil o bwysi gyda parasiwt ynghlwm wrthi. Gollyngwyd hwy gan awyren Almaenig sef Dornier 217E. Mae'n debyg fod yr awyren wedi bod yn bomio Lerpwl a gollyngodd y bomiau ar y ffordd yn ôl. Gadawodd dwll enfawr yn y ddaear, ond ni chafodd unrhyw un niwed er i ffenestri falu yn Nhŷ Mawr a Thirdu.
Ar yr un penwythnos, bu cyffro mawr yn Llanfair Caereinion. Yn ôl yr hanes, roedd rhywun wedi gweld pobl ar y Drum Ddu, uwchben Dolmaen ger y Foel. Roedd amheuaeth mai milwyr Almaenig oeddent wedi disgyn ar barasiwt.
Daeth y neges i Lanfair a chanwyd clychau'r Eglwys ganol nos i rybuddio'r trigolion fod ymosodiad yn debygol. Ymgasglodd yr 91Èȱ¬ Guard o flaen yr Eglwys a rhoddwyd bwledi iddynt. Fel yr oedd un o'r 91Èȱ¬ Guard yn llwytho ei wn, mae'n debyg iddo gyffwrdd y trigar ac aeth yr ergyd allan gan daro tŵr yr Eglwys. Tybed beth feddyliai trigolion Llanfair ar y pryd?
Yn ffodus, doedd dim i'w boeni amdano oherwydd darganfuwyd mai bugeiliaid oedd y "milwyr" a welwyd ar y Drum Ddu, a dyma'r unig dro y canwyd y clychau yn Llanfair i rybuddio fod ymosodiad ar fin digwydd.
Roedd yr awyrennau Almaenig yn pasio uwchben Llanfair yn ystod y nos a chyfeiriodd nifer o bobl at y sŵn trwm a wnaethant. Dyma gyfnod y "blackout" a chanwyd seiren yn hen Swyddfa'r Heddlu i rybuddio pawb na ddylai unrhyw olau gael ei weld.
Roedd dau swyddog ARP yn y dref i wneud yn siwr fod pawb yn cadw at y rheolau. Mr Trefor Edwards siopwr, oedd un ohonynt a Mr Derrick oedd y llall. Gwerthai Mr Derrick orchuddion ffenestri (blinds) a dosbarthai fasgiau nwy yn ei siop Commerce House, a phan fyddai yna "air raid warning" byddai'r ddau swyddog yn chwythu chwislen i rybuddio'r bobl. Pan fyddai'r perygl drosodd, canwyd y seiren eilwaith gyda un nodyn hir i adael i bawb wybod fod yr awyrennau Almaenig wedi pasio am noson arall.
Diolch byth, ni ollyngwyd unrhyw fomiau ar dref Llanfair ei hun, ond heblaw'r ddwy a ddaeth i lawr ger Glanllyn, daeth eraill heb fod ymhell.
Roedd Mr John Jones, Plas Gwyn wedi bod yn cario ŷd drwy'r dydd ddechrau Medi 1940 ac ar ôl gorffen am y diwrnod daeth y teulu ynghyd i'w cartref sef Tyddyn, Llangynyw. Yn sydyn, heb rybudd dyma'r sŵn sgrechian mwyaf ofnadwy uwch eu pennau a chafodd pawb fraw mawr. Aeth Mr Dennis Jones o dan y bwrdd, gymaint roedd wedi dychryn! Yna dyma'r ddaear yn crynu a gwyddent fod bomiau wedi disgyn heb fod ymhell. Erbyn hynny, roedd tri bom wedi disgyn a ffrwydro heb fod ymhell o Blas Cyfronydd - credir fod y peilot Almaenig wedi gweld golau yn y Plas o bosib. Unwaith eto ni chafodd neb ei anafu ond roedd tyllau mawr i'w gweld yn y cae.
Fe ddaeth dau fom arall i lawr ym mis Ebrill 1941 rhwng Llanerfyl a Dolanog. Roedd un ohonynt ar gaeau Coedtalog a'r llall tua pedwar canllath yn agosach at yr Afon Banwy yng ngro Cyniwyll. Ni fu unrhyw ddifrod ond cofia Dewi Davies fod tÅ· Coedtalog wedi crynu i'w seiliau. Credir mai 'land mines' oedd y bomiau ac roedd rhaffau cryfion ynghlwm wrthynt a gysylltwyd wrth barasiwt. Mae'n debyg fod bomiau heb eu gollwng ar yr awyren a dyma gael madael arnynt er mwyn dychwelyd adre'n gynt. Er fod y diweddar Dafydd Davies a'i weision wedi llenwi'r twll mawr, mae'n debyg fod pant i'w weld yn y cae hyd heddiw."