Fe soniais am rai awyrennau a ddaeth i lawr yn yr ardal hon eisoes, a'r tro hwn hoffwn sôn am un arall a blymiodd i'r ddaear ger tŷ Pencroenllwm, Rhiwhiriaeth ar Orffennaf 28, 1944.
Awyren Thunderbolt P-47 ydoedd hon a'r peilot oedd Lt. Arthur C. Jenkins o Virginia UDA a hedfanai awyrennau o faes awyr Americanaidd yn Atcham, Sir Amwythig. Roedd y peilotiaid yn ymarfer hedfan yn isel mewn paratoad ar gyfer rhyfel. Roedd y Thunderbolt yn awyren hynod o bwerus gydag injan 2300 'horse power' a chyflymdra uchaf o 427 m.y.a. Roedd ganddi wyth gwn a medrai gludo bomiau yn ogystal.
Arferai'r peilotiaid ymarfer yn barau, a phartner Lt. Jenkins oedd Lt. Reese (Americanwyr o dras Cymreig tybed?) Daeth y ddwy awyren dros Lanfair ac fe'u nodwyd gan David Jones a'i bartner a weithiai gyda'r ROC, (Royal Observer Corps) mewn adeilad bach ar Gae Boncyn a adwaenid yn P3. O fewn ychydig, dychwelodd un o'r awyrennau yn ôl dros safle'r ROC ac roedd yn amlwg fod rhywbeth wedi digwydd i'r llall.
Erbyn hynny, roedd awyren Lt. Jenkins wedi mynd i mewn i gymylau isel, ac fel y daeth allan o'r cymylau, gwelodd dŷ Pencroenllwm yn union o'i flaen. Trodd yn sydyn i osgoi'r tŷ ond tarodd yn erbyn y ddaear ychydig gannoedd o lathenni o'r tŷ cyn disgyn mewn cae o geirch a'i roi ar dân.
Roedd Mr Sidney Watkins (o'r Trallwm bellach) yn ymyl, ac aeth at yr awyren a gwelodd gorff y peilot yn dal yn ei sedd, ond heb ei ben. Daeth llawer iawn o drigolion yr ardal yno ac fe gymerwyd cryn dipyn o amser i'r Americaniaid glirio gweddillion yr awyren. Roedd llawer o gyfnewid nwyddau rhwng y milwyr a theulu Pencroenllwm. Un fargen oedd cyfnewid tuniau o ffrwythau am iâr, ac yn ôl y sôn, lladdwyd yr iâr ac fe gafodd ei berwi mewn het ddur un o'r Americaniaid! Cafwyd iawndal gan y Weinyddiaeth Amaeth am y ceirch a losgwyd a bu'n rhaid difa llo a dorrodd ei goes yn y ffrwydriad - cyfanswm o £35!
Dychwelodd Lt. Rees, y peilot arall i'r safle drannoeth a bu'n ymweld â safle'r ROC yn Llanfair.
Claddwyd Lt. Arthur G. Jenkins mewn mynwent i luoedd arfog America yn Maddingley, Caergrawnt (Cambridge). Nid dyma ddiwedd yr hanes, oherwydd teimlai Ken Astley, Gwern-y-Brain y dylai'r peilot gael ei gofio am iddo aberthu ei fywyd. Trefnwyd digwyddiad ar ddydd Sul, Gorffennaf 28, 2002 yn Rhiwhiriaeth er mwyn dadorchuddio plac ar wal yr ysgol a chynhaliwyd gwasanaeth i gofio am Lt. Jenkins.
Daeth tyrfa dda i dalu teyrnged i'r peilot, gyda swyddogion pwysig o Awyrlu America yn bresennol. Yn dilyn gwasanaeth byr ar safle'r ddamwain, dadorchuddiwyd y gofeb gan yr Uwch Gapten (Major) Irvin 'Dusty' Miller, prif swyddog maes Awyr Atcham adeg y ddamwain. Roedd o'n 82 oed a bu'n hedfan awyrennau 'Spitfire' ac ystyriwyd ef yn un o brif beilotiaid yn awyrlu America yn yr Ail Ryfel Byd.
Yn y llun hwn gwelir ef gyda David Jones, agosaf ato, a blotiodd yr awyren ar safle'r ROC yn Llanfair. Tu ôl iddo mae curadur mynwent Americanaidd Maddingley, Caergrawnt, yna Sidney Watkins, Pencroenllwm (Trallwm bellach), John Ellis a fu'n arwain y gwasanaeth coffa, a Ken Astley, Gwern Brain a drefnodd y digwyddiad.
Tybed faint o ddarllenwyr Plu'r Gweunydd a glywodd am y ddamwain hon? Mae'n bwysig nad yw'n mynd yn anghof gan ei bod yn ran o hanes yr ardal. Yn sicr mae Ken i'w longyfarch am ei weledigaeth ac fel y dywedodd roedd y peilot yn "fab i rywun".
Diolch iddo am fynd â mi i safle'r ddamwain ac am rannu ei wybodaeth a rhoi benthyg dogfennau i mi. Diolch hefyd i David Jones, Llanfair am ei gymorth parod wrth baratoi'r erthygl hon.
Alwyn Hughes