Prif reswm yr ymweliad oedd canu yn nathliadau canmlwyddiant rheilffordd stêm Gulbene-Aluksne gyda chôr o fechgyn a band o Ysgol Gerdd Gulbene. Yn ogystal â hyn buom yn ddigon ffodus i gael ymweld â nifer o amgueddfeydd ac adeiladau yn ogystal â chael canu gyda chôr cymysg o Ysgol Uwchradd Riga.
Dechreuodd y daith i lawr i Heathrow yn hwyr nos Fercher Medi'r 3ydd. Ar ôl trio cael dipyn o gwsg ar y bws ar y ffordd i lawr, cyrhaeddom y maes awyr ymhell o flaen amser felly cawsom ddigon o amser i ymlacio cyn dechrau hedfan. Gyda'r awyren yn dechrau ychydig yn hwyr roedd rhai ohonom yn dechrau cynhyrfu oherwydd doedden ni heb hedfan o'r blaen ond ar ôl ychydig aeth y poeni'n ofer gan fod y daith i Frankfurt ac yna ymlaen i Riga'n un hwylus. Yr oedd popeth yn rhedeg yn esmwyth i ni ddechrau hel yw cesys ym maes awyr Riga. Roedd un ar goll. Ar y daith, roedd tair Hannah Jones, dwy ohonynt yn Hannah Elisabeth Jones ac nid oedd y cwmni awyrennau wedi bwcio'r ddwy ar yr awyren o Frankfurt i Riga ond cafodd y broblem ei datrys. Ond, erbyn dadlwytho'r cesys yn y maes awyr roedd cês un Hannah yn Frankfurt a ninnau yn Riga... cyrhaeddodd y cês ddeuddydd yn ddiweddarach.
Ar y noson gyntaf roedden ni'n canu mewn cynhadledd yn y Small Guild yn Riga. Roedd Rhodri Morgan a Llysgennad Prydain yn Latvia yn bresennol. Roedd hi'n fraint cael canu mewn adeilad o'r fath.
Ar ail ddydd y daith, cyn dechrau ar y daith o dair awr i ardal Gulbene euthum am dro drwy'r Riga newydd a'r hen. Roedd cerdded drwy'r ddinas yn brofiad a hanner ond cyrhaeddom amgueddfa The Occupancy of Latvia 1940 - 1991 yn ddiogel. Roedd yr ymweliad â'r amgueddfa yma yn agoriad llygaid wrth ddysgu am ormes a dioddefaint pobl Latvia o'r Ail Ryfel Byd hyd at 1991 dan reolaeth y Rwsiaid. Roedd yr ymweliad yma ar ddechrau'r daith yn gwneud i ni werthfawrogi holl agweddau hanesyddol a thraddodiadol y wlad.
Y siwrnai i ardal Gulbene oedd y cam nesaf ond cyn dechrau ar y daith roedd technical hitch arall. Mae gyrwyr yn Riga mor wyllt a ffermwyr Sir Drefaldwyn ar y ffyrdd ac ar y ffordd i'r gwesty i nôl ein pethau aeth car dyn Rwsiaidd i ochr ein bws. Ar ôl aros am oes am yr heddlu a llenwi'r bws dechreusom ar y daith. Ar y ffordd cawsom ganu a chôr cymysg o Ysgol Uwchradd Riga mewn Eglwys yn Amgueddfa Werin Latvia ar gyrion y ddinas.
Cawsom gyfle i ymlacio ar ôl cyrraedd y gwesty yn Stamariena yn ardal Gulbene ar y nos Wener cyn codi'n gynnar bore Sadwrn gyda diwrnod prysur o'n blaen. Dydd Sadwrn oedd prif ddiwrnod dathliadau'r rheilffordd. Cyn canu yn y prif gyngerdd ar y nos Sadwrn gyda chôr o fechgyn o Ysgol Gerdd Gulbene buom yn canu yn y dair orsaf ar hyd lein y trên sef Gulbene gyda band yr Ysgol Gerdd, Stamariena ac Aluksne.
Yn Aluksne aethom i weld Eglwys a chael canu yno ac yna aethom i'r unig amgueddfa Feiblaidd yn Ewrop oedd yn cynnwys Beibl Cymraeg a gyflwynwyd iddi gan Eglwys Llanfair Caereinion. Roedd gorsaf Aluksne yn orlawn o bobl gyda ffair a phob math o adloniant a stondinau yno. Ar ôl diwrnod prysur daeth y cyfan i ben gyda chyngerdd yn ôl yng ngorsaf Gulbene gyda'r nos.
Ymweld a Amgueddfa Melin Ddŵr Ate a wnaethom ar y Dydd Sul. Ar ôl cael gweld yr Amgueddfa buom yn canu mewn cyngerdd bach yno gyda band Ysgol Gerdd Gulbene. I ddod a'n hymweliad ag ardal Gulbene i ben buom yn canu mewn cyngerdd yn Eglwys Gatholig Gulbene gyda'r côr o fechgyn o'r Ysgol Gerdd ac yna aethom i barti yn yr ysgol gyda'r disgyblion. Yr oeddem yn rhyfeddu at y croeso cynnes a gawsom ymhob man a'r anrhegion a'r blodau a dderbyniasom.
Bu'n rhaid ffarwelio a'r ardal ar fore Dydd Llun a dechrau ar y daith yn ôl i Riga cyn hedfan adref ar y dydd Mawrth. Cawsom y cyfle i brofi siopau'r ddinas yn y prynhawn a phrynu anrhegion a chyfle i orffen y ffilm yn y camera!
Ar ôl bod yn siopa - eto, gadawodd y bws am y maes awyr amser cinio dydd Mawrth ac ar ôl gwario yn y duty free dechreusom ar y daith i Frankfurt ac yna ymlaen i Heathrow a do, mi gyrhaeddodd pob cês adref yn ddiogel, diolch byth.
Yn hwyr nos Fawrth roedden ni'n ôl yn Llanfair wedi blino'n lân ar ôl wythnos arbennig yn llawn profiadau. Gobeithio y cawn gyfle i groesawu pobl ifanc o Latvia yn ôl i'r ardal hon ym mis Mawrth.3
Nia Foules