Ar wahân i ymfalchio yn eu beirdd, emynwyr, llenorion a cherddorion, gall Maldwyn ymfalchio yn y cenhadon a fagwyd yn y Sir, rhai a roisant wasanaeth arbennig fel arloeswyr ar y meysydd cenhadol. Yn eu plith yr oedd y Parch John Davies, Tahiti a anwyd ym Mhencaedu, Llanfihangel yn y flwyddyn 1772. Cafodd ychydig addysg yn ysgolion Madam Bevan a bu yn cadw ysgol am gyfnod yn Llanrhaeadr Y.M. Pan ddaeth cais am athrawon i fynd i Ynys Tahiti, barnwyd fod John Davies yn gymwys i'r gwaith, ac aeth ef a'i briod allan i'r ynys yn 1801 wedi mordaith anodd ac araf iawn. Llafuriodd yno am hanner can mlynedd heb unwaith ddychwelyd i'r wlad hon. Cyfarfu â llawer o anawsterau a daeth llawer o ofidiau i'w ran, ond drwy'r cyfan daliodd yn ffyddlon i'w Arglwydd. Cyfieithodd rannau o'r Beibl ac emynau Cymraeg i iaith y brodorion. Cyfieithodd 'Daith y Pererin' ac amryw o lyfrau a hynny yn ei flynyddoedd olaf dan anfantais oherwydd, bu iddo golli ei olwg. Bu farw Awst 1855. Flynyddoedd yn ôl bellach cynhaliwyd cyfarfod i'w goffau ym Mhontrobert y fro lle;i ganwyd. Y cenhadwr Thomas Jones Yn y flwyddyn 1810, ganwyd cenhadwr arall, yn Nhanyffridd Llangynyw sef Thomas Jones. Y cenhadwr cyntaf o blith y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg ar Fryniau Casia. Yr oedd Thomas Jones yn un o ddeg o blant Edward a Mary Jones. Pan oedd Thomas Jones yn dair oed symudodd y teulu i Lerpwl a buont yno chwe blynedd cyn dychwelyd i Faldwyn. Yna cartrefodd yn Aberriw, ac yno y dysgodd Thomas Jones grefft saer coed a helpu gyda'r gwaith ar y fferm a bu'r cyfan yn gymorth mawr iddo yn ei arloesi ar Fryniau Casia. Yn 1840 hwyliodd ei briod ac yntau am Fryniau Casia. Dywedir i'r fordaith gymryd pump mis namyn dau ddiwrnod i'w chwblhau. Yno buont yn llafurio yn ddyfal hyd 1849. Cyfarfu Thomas Jones ag anawsterau mawr. Ei dasg cyntaf oedd dysgu'r iaith a cheisio dysgu'r bobl. Yn 1842 agorodd dair ysgol. Dysgai nifer o fechgyn ifanc yn ei gartref er mwyn eu cael yn athrawon yn yr ysgolion. Cyfieithodd rannau o'r Testament Newydd. Ysgrifennai lyfrau syml, a chyfieithodd y Rhodd Mam i'w hiaith. Dyma meddir oedd dechrau Ilenyddiaeth Kasia. Dysgodd lawer o grefftau i'r bobl. Dyna a gofnodir ar ei feddfan yn Calcutta: "In loving memory of Rev. Thomas Jones The Founding Father of the Kahsia Alphabet and Literature and the pioneer of the Welsh Presbyterian Mission in the Khasi Hills'. Bu iddo farw yn nhŷ cyfaill iddo yn Calcutta ar 16 Medi 1849 wedi oes a llawer o brofiadau a threialon. Erthygl gan Mrs Helena Jones a wobrwywyd yn Eisteddfod Bethlehem, Soar a Phentyrch eleni.
|