Yn hwyr un noson ar ddechrau mis Awst cyrhaeddais Damascus efo teimladau cymysg: y cyffro o ymweld â rhywle newydd; ond hefyd rhywfaint o amheuaeth. Roeddwn yn unig, yn bell o gartref, ac yn ansicr os oedd fy ngallu yn yr iaith Arabeg am blesio pobl neu eu drysu. Ynghyd â hyn, roedd hi rŵan yn 10.30, ac roeddwn yn bell o fod yn sicr os oedd genna i rywle i aros am y nos.
Pythefnos yn gynharach gefais sgwrs hanner Ffrangeg, hanner Arabeg, dros linell rhyngwladol wan efo dyn oedd yn rhentio stafell mewn tÅ· yn Hen Ddinas Damascus. Daeth y sgwrs i ben efo'r ddau ohonom wedi'u drysu braidd: fo am be oeddwn i eisiau, a fi am be oeddwn i am gael. Er hynny llwyddais i gael cyfeiriad, wedi'i sgwennu ar ddarn bach o bapur a oedd rwan yn saff yn fy mhoced.
Gwibiais trwy'r rheolaeth basport a chesglais fy mag, ond mae'n rhaid fod fy amheuaeth wedi dal i fod yn amlwg wrth i ddyn Syriaidd ei olwg ofyn i mi, efo acen Manceinion, os oeddwn i eisiau lifft i mewn i'r dre. Mewn gwirionedd, roedd y dyn yn Brydeiniwr, ond wedi'i eni yn Syria, lle'r oedd yn dychwelyd bob haf i weld ei deulu. Fe dderbyniais yn ddiolchgar, a phan gyrhaeddodd ei frawd, dringais i mewn i'r car am y daith o hanner awr i fewn i ganol y ddinas, ac yn y pen draw, taith llawer yn hirach i ddod o hyd i'r cyfeiriad a oedd genna i ar y darn bach o bapur.
Er hyn, ymddangoson nhw yn ddigon hapus i fy ngyrru o gwmpas: haelioni at ddieithryn dw i byth wedi gweld ei fath ym Mhrydain. Yn ffodus mi oeddwn wedi llwyddo i drefnu lle i aros yn y tÅ·: diolch byth, gan ei fod yn bell heibio canol nos erbyn rwan.
Roedd y tÅ· lle roeddwn yn aros yng nghwarter Cristnogol yr Hen Ddinas, efo teulu a oedd yn rhan o 10% y boblogaeth yn Syria sy'n dilyn y ffydd, ac yn byw'n ddigon heddychlon efo'r Mwslemiaid a lleiafrifoedd crefyddol eraill y wlad. I ddechrau, mae'n dipyn o syndod rhywle mewn gwlad Arabaidd yn llawn eglwysi, ond wrth gwrs roedd y Cristnogion yma ymhell cyn y Mwslemiaid. Er hyn, mae'n sicr mai nid nhw oedd y cyntaf i fyw yma yn Damascus, man o fywyd sefydlog am dros 10,000 o flynyddoedd, gan ei gwneud hi'r ddinas hynaf yn y byd.
Treuliais fy niwrnod cyntaf, fel y buaswn yn treulio sawl un arall, yn crwydro strydoedd cul a throellog yr Hen Ddinas, trwy'r ardaloedd Cristnogol a Mwslemaidd, yn archwilio'r marchnadoedd, ac yn edmygu rhai o'r golygfeydd hynafol. Y gorau o'r rhain oedd Mosg yr Umayyad, a adeiladwyd gan reolwyr yr ardal yn yr 8fed ganrif, ac sydd bellach yn denu pererinion Mwslemaidd ac yn agor ei ddrysau i ymwelwyr o bob ffydd.
Roedd yr Hen Ddinas o hyd yn llawn bywyd, efo pobl hen ac ifanc yn cerdded y strydoedd, ddydd a nos. Roedd hi hefyd yn ddiogel iawn, ac ar ôl noswaith mewn un o fwytai gwych (ac anhygoel o rad) Damascus, gallwn gerdded adre ar ben fy hun heb boeni.
Ar ddiwrnodau eraill, gallwn dreulio amser yn mwynhau rhai o weithgareddau mwy traddodiadol Syria, wrth yfed coffi Twrcaidd cryf allan o wydrau bychain, dros ambell i rownd o backgammon. Un diwrnod ymwelais â'r hamam, bath cyhoeddus i ddynion, lle mae hanner awr mewn stafell llawn stem trwchus yn cael ei ddilyn efo dyn enfawr yn gwisgo maneg tebyg i brilo pad, sy'n cael ei lusgo ar draws dy gefn gan grafu unrhyw fudreddi i ffwrdd (ynghyd â haen neu ddwy o groen) ac yn eich gadael yn fwy glân nag erioed (ond mewn cryn dipyn o boen!).
Prif bwrpas fy nhaith oedd i wella ar flwyddyn o astudio Arabeg yn y brifysgol, ac roeddwn wedi cofrestru efo cwrs lle roeddwn yn cael 15 awr o wersi yr wythnos. Roedd fy athro'n wych a newydd orffen yn y brifysgol ar frig y flwyddyn efo thesis meistr ar ieithyddiaeth Arabeg. Mae'n debyg fod genna i dipyn o astudio i fynd cyn cyrraedd ei lefel o.
Tu allan dosbarth tueddai pobl i ymateb yn dda i fy Arabeg, ac yn aml yn ddigon parod i gynnig help pan gawn broblemau efo fy ngeiriau. Roedd hi'n wych cael clywed yr iaith yn cael ei defnyddio, a'i defnyddio fy hun mewn sefyllfaoedd 'go iawn', ar ôl blwyddyn o'i hastudio mewn llyfrau a dosbarthiadau.
Yn wir, roedd pobl yn Syria yn gyfeillgar dros ben, a hyn er gwaetha amhoblogrwydd polisiau Prydain yn y Dwyrain Canol, yn enwedig y wlad sy'n gymydog i Syria i'r de, Irac. Yn ffodus roedd pobl yn gwahaniaethu rhwng gweithred y llywodraeth Brydeinig a'i phobl, a dealIon nhw yn llawn sut bod cymaint o bobl Prydain wedi gwrthwynebu'r rhyfel.
Roedd pobl Syria yn falch iawn hefyd fod ymwelwyr o'r Dwyrain yn dod i'r wlad i weld nad yw'r byd Arabaidd a Mwslemaidd yn llawn terfysgwyr gwallgof. Cymerais gysur wrth feddwl, be bynnag sy'n cael ei wneud yn ein henw gan ddynion pwerus, ni all hyn ddifetha gallu pobl gyffredin, beth bynnag yw eu hil, crefydd neu wlad, i estyn cyfeillgarwch i'w gilydd.
Erthygl gan Robert Goulden, Penyrwtra, Llanfair Caereinion