Yn Y Drenewydd, ar 3 Tachwedd, 2007 enillom ni'r Adrannau Llenyddiaeth a Celf a Chrefft ac er inni ddod yn ail hefyd ar y Llwyfan, cododd ein Cadeirydd Amy Williams y Darian ar ddiwedd yr Eisteddfod.
Enillodd Amy'r gwpan i'r ferch gyda'r mwyaf o bwyntiau yn yr Adran Celf a Chrefft. Nerys Brown enillodd y tlws i'r ferch sydd wedi ennill y nifer mwyaf o bwyntiau ar y llwyfan. Penderfynodd y beirniad roi'r wobr am yr eitem fwyaf doniol i David Oliver, a chipiodd Henrietta Alexander y wobr am y nifer fwyaf o bwyntiau yn yr Adran Llenyddiaeth (19 o flynyddoedd yn ôl enillodd ei mam yr un un tlws!)
Enillodd Mari Lewis Gadair yr Eisteddfod am ei Stori Fer ar y Testun 'Y Rhodd': canmolodd y beirniad Karina Wyn Dafis ei gwaith dawnus a chrefftus.
Aeth pedair eitem, sef y Parti Llefaru (sy'n cael ei hyfforddi gan Ann Jones), y sgets (gyda Amy a David), adroddiad digri gan David a deuawd ddoniol (gyda Ffion a David) ymlaen i'r Steddfod Genedlaethol yng Nghorwen ar 17 Tachwedd, 2007. Yn anffodus, nid oedd Amy a Ffion yn gallu dod i Gorwen, felly camodd Hannah Jones ymlaen i lenwi'r bwlch. Roedd yn dipyn o her dysgu'r sgets a'r ddeuawd dros nos ac mae delio gyda David ar unrhyw adeg yn her - 'gellir disgwyl yr annisgwyl'. Daethant yn 3ydd efo'r sgets, ar ôl cael eu cosbi am fynd dros amser achos ymateb y gynulleidfa, a chafodd David 1af am adroddiad digri yn ogystal â chwpan am yr eitem orau yn yr adran llefaru.
Tu cefn i'r llwyddiant yma, mae 'na dîm gwych, sydd wastad yn rhoi eu gorau glas i'r clwb. Mae'r aelodau'n dalentog, yn weithgar ac yn ffyddlon, mae 'na bwyllgor cryf sy'n ceisio cadw rhywfaint o drefn arnyn nhw wrth gwrs, rhai sy'n helpu.
Ni allwn ni lwyfannu unrhyw beth heb gymorth y giang sef Anwen Lawnt (Mrs Fixit, sy'n sortio bob dim), Sioned Lewis (cyfeilyddes o fri - o Pie Jesu i'r Da Doo Ron Ron), Olwen Chapman (byth yn rhy brysur i helpu), Ann Jones (sydd wedi hyfforddi'r parti llefaru yn wych fel arfer ta waeth am ei salwch) Andrea Williams (sydd wedi bod yn gefn i Amy, sy'n gefn i ni), Elaine Lewis (sy'n gwybod bob dim am Gelf a Chrefft), Rachel Evans (gwisgoedd ffantastig, yn enwedig yr Asen - collodd Rachel noson o gwsg i roi 'gusset' yn yr Asen) a Myfanwy Alexander (sgriptiau a syniadau gwirion).
Wrth edrych yn ôl dros y cyfnod prysur hwn 'dwi'n cofio sawl argyfwng, megis colli canŵenfawr, twll yn y pwll, a phwy gychwynnodd chwerthin yn y Côr Garglo? Ond mwy na dim byd, dwi'n cofio'r hwyl! Felly os 'dach chi eisiau cyfle i chwerthin, dewch i'r Cyngerdd yn yr Institiwt yn Llanfair ar y 5ed o Ragfyr am 7.30pm.
Lluniau a chanlyniadau Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru, Corwen, Tachwedd 2007
|