Wel, dwedwch i mi, sut oedd Eisteddfod Mathrafal...
Y gair sydd yn odli wrth gwrs yw di-hafal.
Dihafal y safle ar lan yr Efyrnwy,
Dihafal y gwres, all neb wadu hynny.
Ond doedd pethe ddim cystal yn oerni y gaea'
Ar gwaith paratoi yn wir ar ei dryma.
O ble daw yr arian... y symiau di-ddiwedd,
Roedd hyd yn oed Glyn yn dechre cnoi'i winedd.
A beth am y traffig jams fydd yn siwr wrth bont Newbridge
A'r ceir fydd yn ciwio o Feifod i Nantwich.
Yn wir, roedd y trefnydd yn boenus am hydoedd
Ac yn cerdded ei gi yn benisel drwy'r strydoedd.
Ond roedd Margaret yn hapus 'n ei swyddfa fachglyd,
Yn ddoeth, yn cau allan holl boenau y byd.
Ar côr, bobl bach, yr holl ffys a ffwdan
"Ddysgwn ni mono byth" - roedd pawb yn darogan.
Ac am gae yr Orsedd roedd Tref yn gofidio
Fyddai'r cylch wedi glasu, fyddai'r gowns wedi'u smwddio?
Ond fe ddaeth y gwanwyn a'r gwcw i diwnio
A phwyllgore'r Eisteddfod i gyd 'di adfywio.
Roedd Hywel a'i gi yn sboncio yn heini,
A Glyn yn cael pawb fynd yn ddwfn i'w pocedi.
Ac yng nghylch yr Orsedd fe dyfodd y gweirie,
A thenoriaid y côr wedi dysgu eu node!
Ar merched yn grand yn eu sgertie a'u blowsus
A phob un o'r dynion 'di ffitio i'w drowsus.
Er mae'n dipyn o fenter cael un off the peg
A'r dynion heb wybod eu size inside leg.
Roedd compiwtars y swyddfa yn boeth, bron yn fflamie
A Bryn yn chwys domen yn gwerthu tocynne.
Ond trodd y tywydd yn wlyb yn niwedd Gorffenna'
Ac aeth pawb ar ei linie i ofyn am hindda.
Ac roedd rhywun yn rhywle wedi clywed y cwyno
Ac anfon fath dywydd wnaiff neb fyth anghofio.
Ac yno'n y lle sydd yr hardda i'w nabod
Y cawsom ni Steddfod i'w chofio ym Meifod.
Y traffig yn llifo yn hollol ddi-dramgwydd
A phawb yn eu hwylie oherwydd y tywydd.
Yn canmol trefniade, yn canmol y cyfan,
A neb, neb yn cwyno ie dim Gwilym Owen.
A phawb fu yn holi ble, ble, ble mae Meifod
Yn cyhoeddi yn glir, dyma lle hardda'i nabod.
Ac yn sylwi yn syn ein bod ni'n y Gororau
Yn dal yma o hyd a thân yn ein bolie.
A Saeson y Trallwm i gyd yn cydnabod
Llwyddiant anhygoel "that Welsh thing in Meifod".
Wel diolch i chi gyd fu mor ddygn yn gweithio,
Can ddiolch gan un wnaeth fawr ddim ond enjoio.
A Hywel a'ch staff wrth droi draw am Gaernarfon
Ewch gyda'n diolch yn cynhesu eich calon.
Gobeithio yn wir y bydd Eisteddfod Mathrafal
Yn byw yn eich cof fel Steddfod ddi-hafal.
Nest Davies