Dechreuodd fy nhaith ar Dachwedd 19, lle roeddwn yn teithio i Goa, India mewn awyren am ddeg awr. Cyn cychwyn, cefais fy chwilio yn y maes awyr wrth fynd trwy'r gatiau - mae'n rhaid fy mod yn edrych yn ddrwgdybus iawn. Cyrraedd Goa yn gynnar bore dydd Mawrth, a'r gwres yn ein taro'n syth - 26°C am 7 o'r gloch y bore!!
Roedd yr Indiaid i gyd eisiau cario'n bagiau ac yn eu lluchio ar ben bws oedd yn cwympo i ddarnau ac wedyn yn disgwyl tip! Ar ein taith i'r gwesty, gwelais olygfa anhygoel - mae pawb yma yn dlawd iawn, yn lluchio eu sbwriel ar y stryd, yn byw mewn "tin sheds" ar ochr y ffordd, a'r olygfa o dai'r cyfoethog o amgylch y gornel yn eich taro'n syth.
Mae'r Heddlu i gyd yn cerdded o gwmpas yn cario eu gynnau enfawr ac yn eu dal mor ddigyffro a thawel. Mae'r tlodi yn eich taro'n syth ac roeddwn yn diolch i Dduw mai o Sir Faldwyn roeddwn yn dod!
Yn gynnar y bore wedyn, aethom i'r maes awyr unwaith eto i ddal yr awyren i Delhi, y Brifddinas. Wedi cyrraedd, cawsom ein croesawu gyda "flower garlands" a theimlo fel Brenhines. Mae dros 15 miliwn o bobl yn byw yno, ac mae'n swnllyd, yn ofnadwy o brysur dim ond un gair sydd yn dod i'r meddwl er mwyn disgrifio'r prysurdeb; crazy! Mae'r ffyrdd yn hollol gynhyrfus - pawb yn anwybyddu pob arwydd, pob croesfan a hyd oed ambell i olau coch! Mae pawb yn hootio ei gilydd, yn gwenu ac yn gweiddi "No Problem!'
Yn ffodus, roedden ni wedi llogi 'Too-Too' felly doedd dim rhaid i ni yrru yng nghanol yr holl gynnwrf. Nid yw'n syndod gweld mwy na 4 person ar 1 sgwter ac yn dal eu helmet yn eu dwylo.
Wrth groesi'r ffordd, roedd rhaid i ni obeithio am y gorau a jest mynd! Roedd 20,000 o briodasau yn cymryd lle yn Delhi yn unig heddiw, gan bod yr horosgop yn dweud bod hi'n ddiwrnod da i briodi. Ar daith o amgylch "New Delhi" ac "Old Delhi", aethom heibio Tŵr Senedd a Tŷ'r Llywydd, safle amlosgfa Ghandi a galw i fewn i ambell siop a marchnad ar y ffordd, lle cefais fy ngwisgo i fyny mewn Sahri. Mae eu gwisgoedd traddodiadol yn wych!
Ar ein ffordd i Agra i weld y Taj Mahal, cawsom ein amgylchynu gan gardotwyr a oedd yn trio gwerthu gemwaith i ni. Yn ffodus, roeddwn i wedi mynd â brwsys dannedd a phast dannedd efo fi er mwyn eu rhoi nhw fel anrhegion iddyn nhw. Roedd y Taj Mahal wedi'i leoli wrth ymyl yr afon Yamena ac yn un o'r adeiladau prydferthaf yn y byd. Mae wedi'i wneud o farmor gwyn, er cof am Ymerodres India. Yn amlwg, hwn oedd uchafbwynt y gwyliau ac yn brofiad bythgofiadwy.
Cefais fy neffro yn gynnar y bore wedyn gan sŵn gynnau. Es i i edrych tu allan y ffenestr, ond doeddwn i yn methu gweld dim byd oherwydd y mwg a dim ond yn gallu clywed seireniaid ac atsain y bobl yn gweiddi ac yn sgrechian. Erbyn hyn, roedd bom wedi ffrwydro yn Delhi y noson gynt a laddodd bymtheg o bobl. Yn hwyrach, aethom i'r maes awyr unwaith eto i hedfan yn ôl i Goa. Roedd hi'n 34°C yno, anodd credu wrth feddwl bod hi'n bwrw eira pan oeddwn ni'n gadael adre'. Wedi cyrraedd Goa, fe wnaethom ymweld ag Alan Rawlinson & Jean Krause yn Candolin - y croeso Cymreig yn amlwg gyda baner y ddraig goch yn hedfan! Braf oedd gweld y ddau eto a phleser oedd cael fy nhrin fel Tywysoges ymhobman, gan bod Alan yn fy nghyflwyno fel merch iddo!
Yn ôl yn y gwesty, cawsom y cyfle i wylio sioe draddodiadol, a chael ein gwisgo i fyny mewn Sahri, cael gweld arddangosiad bwyd a chael ein dysgu sut i wneud Samosas - sbeisi iawn, a chael adloniant gan ddawnswyr gwledig India. Gofynnwyd i mi fynd i fyny ar y llwyfan i ddawnsio efo nhw i'r "Farmers Dance". Dechreuodd y gan "Delila" ganu yn ystod y sioe, a sefais i a dynes o Gaerdydd i fyny a dechrau canu wrth chwifio baner y ddraig goch uwch ein pennau. Roedden ni'n dwy yn falch o fod yn Gymry!
Roeddwn i'n ddigon ffodus o gael y profiad o fynd ar gefn Eliffant - ei enw oedd "Lucky" - ond efallai ddim mor "Lucky" efo fi'n eistedd ar ei gefn! Bum yn ddigon lwcus i rhoi bath i'r Eliffant yng nghanol yr afon a sgrwbio ei gefn, ei glustiau a'i drwnc! Roedd o yn ei ogoniant!
Wedi hyn, dim ond ychydig o ddyddiau oedd ar ôl o'r gwyliau, a cafodd rheiny eu rhannu rhwng eistedd ar y traeth yn gwylio dolffiniaid yn nofio yn y môr a thorheulo wrth ymyl y pwll nofio yn y gwesty. Braf oedd cael ymlacio, ond anodd oedd credu y byddem yn gadael yr haul a'r cynhesrwydd ar gyfer y gwynt a'r glaw.
Ond, rwyf wedi cael amser wrth fy modd. Rwyf wedi bod mor ffodus i gael gweld cymaint o ryfeddodau, cael cwrdd â phob math o bobl, a chael gweld pethau anhygoel o dlws. Yn bendant, bydd yr atgofion yma i gyd yn aros yn fy nghof am byth ac rwy'n argymell i unrhyw un ymweld â'r wlad.
Gill Owen