Rwyf yn ddiolchgar lawn i ddau deulu Ileol am hen greiriau a gefais yn ddiweddar. Yn y Iluniau gwelir dwy aradr a dynnwyd gan geffylau.
Cefais yr aradr (neu arad) uchaf gan Mr a Mrs Gwynfryn Thomas, Llwynhir, Llwydiarth. Sylwais arni mewn gwrych ar ochr y ffordd tra'n mynd am dro. Roedd Mr a Mrs Thomas yn gwybod ei bod yno ers hanner canrif o leiaf a chawsom hi'n rhydd ar ô torri ychydig o frigau.
Euthum ati i'w glanhau a rhyfeddais ei bod mewn cyflwr cystal ag yr oedd. Sylwais fod enw arni sef E. Davies. Credaf mai un o'r gofaint Davies o'r Foel ydoedd. Ganwyd Edward Davies, ym Machynlleth yn 1778, a daeth yn ôl i Efail y Foel yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cafodd ef a'i wraig chwech o blant, a'r hynaf ohonynt oedd Edward a anwyd yn 1814, a bu farw yn 1884. Priododd Edward wraig o'r enw Ann, ac fe gawsant hwythau fab a elwid Edward, ond bu farw yn 14 oed.
Claddwyd y tri Edward yn yr un bedd ym mynwent Garthbeibio, ynghyd ag Elizabeth Jones (merch yr hen Edward Davies). Dyma ran o'r hyn a welir ar y garreg fedd.
"Hefyd am ei fab Edward Davies, Gof Pontcadfan, yr hwn a fu farw ar Awst 17 1884 yn 72 oed.
Hefyd am Edward mab Edward ac Ann Davies, yr hwn a fu farw Mawrth 20fed 1867 yn 14 oed.
Mae'n debyg mai William Ellis (Taid Mrs Nest Davies a Miss E.P. Roberts) a ddaeth yn ôl i Efail Pontcadfan ar ôl Edward Davies. Credaf fod yr arad yma wedi'i gwneud rhwng 1850 a 1865. Roedd Edward Davies yn hen, hen ewythr i'r diweddar John Edward Davies, gof olaf y Foel (a fu farw yn 1978).
Daeth yr arad arall o Bencoed, Cwm Twrch, ac rwyf yn ddiolchgar i'r teulu amdani. Gwnaethpwyd hon gan E. Thomas, Meifod tua 1860. Daeth Evan Thomas i Feifod o Lanuwchllyn yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd fedal aur gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr yn 1840 am gynllunio math arbennig o og (harrow) i drin y tir.
Ystyrid ef yn grefftwr o flaen ei amser, ac mae Ffransis Payne yn cyfeirio at E. Thomas fel un o ofaint mwyaf blaenllaw ei gyfnod, mewn cyfrol a elwid Yr Aradr Gymreig.
Dydy'r ddwy arad ddim yr un fath. Mae styllen (mould board) yr uchaf yn Ilawer dyfnach na'r llall. Arad i droi tir soft ydoedd, gyda chwlltwr olwyn i gadw'r dyfnder ac i falu'r pridd. Defnyddid yr arad arall i droi tir glas ac mae'r styllen yn gulach gyda mwy o dro ynddi er mwyn troi'r gwys drosodd gan giaddu'r tyweirch a'r chwyn.
Sylwer fod olwyn ar hon yn ogystal er mwyn rheoli dyfnder y gwys. Roedd hyn yn golygu fod Ilai o bwysau ar freichiau'r person oedd yn troi.
Disgwylid i'r sawl a gerddai rhwng cyrn yr arad droi cyfer (erw) o dir mewn diwrnod, gan gerdded dros ddeng milltir i fyny ac i lawr y cwysi.
Diolch i deulu Llwynhir a Phencoed am eu caredigrwydd unwaith eto. Byddaf yn trysori'r ddwy arad a wnaethpwyd yn Ileol gan grefftwyr o'r radd flaenaf.
Diflannodd y ddwy efail ac ni fydd tinc morthwylion i'w clywed ar yr einion byth eto.