Cyn imi weld y rhaglen hon meddyliwn ei fod yn rhywbeth fel 'TVP (textured vegetable protein) efallai wedi ei wneud o ffa soia. Ond na, mae'n gymysgedd o groen a cholagen (ffeibr protein sy'n dal darnau'r corff at ei gilydd) wedi eu malu'n flawd. Mae hyn yn gweithredu fel papur blotio ac yn galluogi cig i ddal dwr ychwanegol. Beth sy'n digwydd yw bod cig cyw iâr yn caei ei fewnforio i Ewrop o'r Dwyrain Pell, Thailand yn bennaf. Gwyddom eisoes fod y cig hwn yn rhad oherwydd nad yw'r gwledydd yno'n dilyn yr un safonau ynglyn â bwyd a lles yr anifeiliaid, dilyniant ac amodau gwaith y gweithwyr fel ninnau. Wedi cyrraedd Ewrop, prosesir y cig, yn yr Iseldiroedd yn bennaf ac mae hyn yn cynnwys triniaeth gyda pheiriannau arbennig syn rhoi dwr i mewn a'r 'hydrolised protein'. Y canlyniad yw cynnyrch sy'n cynnwys efallai 30-40% o ddwr ychwanegol. Allforir hwn yn bennaf i Brydain ble gwerthir ef naill ai drwy siopau neu'r fasnach arlwyo. Nid oes unrhyw beth sy'n anghyfreithlon am hyn ar hyn o bryd os dangosir ar y pecyn dwr (dim sôn am faint) a 'hydrolised protein' fel rhan o'r cynnwys. Gyda'r Gig hwn yn rhad yn y lle cyntaf a dwr llawer rhatach na chig, nid yw'n rhyfedd y gall y cynnyrch hwn gaei ei wario yn rhatach na chig Prydain na thrinir yn yr un modd. Mae hyn yn twyllo'r cyhoedd i ryw fesur ond, yn waeth, weithiau defnyddir cig moch neu gig eidion i wneud yr 'hydrolised protein' oherwydd eu bod yn rhatach. Ni sonnir am hyn ar y pecynnau ac mae'n dwyll difrifol i'r rheiny sy'n prynu cyw iâr oherwydd nad ydynt yn bwyta cig moch neu gig eidion am resymau crefyddol. Dangosa hyn bwysigrwydd hybu cig Prydain ac o wneud yn glir i'r cyhoedd beth yn union y maent yn ei brynu a sut cynhyrchir ef drwy labelu'n addas. Yn sgil misoedd o drafod mae gennym yn awr Hybu Cig Cymru, y corff newydd i hybu cig coch Cymru ac mae gennym ddisgwyliadau mawr am ei waith ar ein rhan ni. Ymddengys hefyd fod angen mwy o weithredu yn y sector cig gwyn i wneud yn glir y gwahaniaeth o ran ansawdd rhwng cynnyrch Prydain a rhai o dramor. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y sectorau cig coch a gwyn yn cystadlu gyda'i gilydd i ryw fesur yn arbennig ynglyn â phris. Os bydd cymaint o wahaniaeth pris rhwng cig Prydain, coch a gwyn, a'r cig iâr y soniais amdano uchod, gall hyn danseilio'r holl ddiwydiant cig ym Mhrydain a gadael ein cyhoedd i fwyta cynnyrch israddol o dramor. Deallaf o ganlyniad i'r rhaglen Panorama fod swyddogion yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y materion hyn. Mae newyddion da hefyd am fwy o gwn synhwyro a gweithredu gan y Tollau yn erbyn mewnforion cig anghyfreithlon drwy'r meysydd awyr. Nigel Wallace
|