|
|
|
Llais Aeron ar y brig! Ebrill 2008 Bu'n noson lwyddiannus iawn yng Ngwesty Llanina nos Iau, Mawrth 20fed pan gynhaliwyd Eisteddfod rhwng papurau bro Ceredigion a Sir Benfro |
|
|
|
Cliciwch i weld lluniau a chlywed clip sain o Ifan Gruffudd yn siarad am y Steddfod Ddwl yma.
Y beirniad oedd y Bnr. Dewi Pws Morris, Tresaith a'r arweinydd oedd y Bnr. Ifan Gruffydd, Tregaron, y ddau yn eu hwyliau yn llywio'r gweithgareddau a chadw'r gynulleidfa i chwerthin ac i ymuno yn nifyrrwch y noson.
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gystadlu ar ran 'Llais Aeron' gan sicrhau mai ein Papur Bro ni ddaeth i'r brig ar y diwedd! Dyma'r gwobrau a ddaeth i Llais Aeron:
Limrig:
1af - Laura Lewis
Aeth Arthur i'r Co-op gyda whilber
I chwilio am rywbeth i swper
Pan welodd e' Bet
Heb ddim byd ond het
"Baps bara oedd byrdwn fy mhader."
2i1: Megan Richards
Aeth Arthur i'r Co-op gyda whilber
I chwilio am rywbeth i swper
Pan welodd y pris
Meddyliodd ar frys "A pint in The Black will be better"
Brawddeg o'r geiriau: PAPURAU BRO
3ydd
Darllen darn heb atalnodi:
1af - Llais Aeron
Adroddiad Digri:
2i1- Llais Aeron: Rhydian Davies, Dihewyd.
3ydd - Llais Aeron: Carwyn Hawkins, Ciliau Aeron
Stori Gelwydd:
3ydd - Llais Aeron: Dafydd Edwards, Bethania.
Edrychwn ymlaen at fanteisio ar y wobr hael ddaw i'n rhan maes o law. Mwy am hynny yn y rhifyn nesa'.
Cliciwch i weld lluniau a chlywed clip sain o Ifan Gruffudd yn siarad am y Steddfod Ddwl yma.
|
|
|
|
|
|