Pleser gan gwmni D.Jenkins a'i Fab, Felin-fach, yw cadarnhau y newyddion diweddar eu bod nhw wedi prynu safle Aeron Valley Cheese, Dyffyn Aeron.
Medd Brian Jenkins, un o gyfarwyddwyr y cwmni: 'Mae prynu'r safle hwn yn fenter fawr ar ein rhan. Cwmni teuluol lleol y'n ni ac ry' ni wedi llwyddo i brynu'r safle pwysig hwn ar waetha'r ffaith nad oedd arian cyhoeddus ar gael i'n helpu o gwbl.'
 Brian ymlaen i esbonio: `Pan gaeodd Aeron Valley Cheese bu i ni, fel cwmni loriau, golli dipyn o fusnes. Dyna pryd y dechreuon ni feddwl yn nhermau prynu'r safle er mwyn dod a gwaith nôl i'r ardal a hefyd i greu busnes newydd i ni'n hunain yn ogystal a chryfhau economi'r ardal yn gyffredinol.
Bobl leol y'n ni ac mae dyfodol yr ardal yn bwysig i ni.'
Gan fod Gweithgor Dyffryn Aeron wedi cael cefnogaeth Cynulliad Cymru i ddatblygu syniadau ar gyfer y safle mae Brian yn falch o'u help gyda'r gwaith cyffrous o ddod a chasgliad o fusnesau lleol ynghyd i gynhyrchu a chyflogi ar y safle.
Medd Brian: 'Mae cydweithio yn nodwedd o'r gymdogaeth hon yn Nyffryn Aeron ac mae cefnogaeth y Gweithgor wedi bod yn gymorth mawr wrth i ni gymryd y cam mentrus hwn.'
Bwriad cwmni D. Jenkins a'I fab yw rhannu'r safle yn unedau llai o faint, a chydweithio gyda Gweithgor Dyffryn Aeron i ddenu busnesau i'r safle. Nawr fod y pryniant wedi'i gwblhau mae sicrwydd y bydd yr hen ffatri gaws yn ganolfan gynhyrchu a chyflogaeth unwaith eto yn y dyfodol agos.
Dywedodd Huw McConochie, Cadeirydd Gweithgor Dyfflyn Aeron: "Ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael cyd-weithio gyda chwmni Donald Jenkins a'i fab i ddatblygu gwaith ar y safle."
Dywedodd y Cynghorydd Sir Lleol, Owen Llywelyn, sydd hefyd yn un o arweinwyr Gweithgor Dyffryn Aeron: "Rhaid talu teyrnged i'r gymdogaeth leol am y ffordd wnaeth ymateb i golli swyddi yn 2006 da chau Dairygold, ac yn 2007 gyda chau Aeron Valley Cheese.Mae cyhoeddiad heddiw yn gam anferth ymlaen i weld swyddi tymor hir o safon uchel ar safle Aeron Valley Cheese, perchnogaeth leol dros rhai o'n hasedau pwysicaf, a rheolaeth leol dros ein dyfodol."
|