Dyma ei ail gyfrol yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad (Gwasg Carreg Gwalch). Teitl y llyfr cyntaf yw Cymry ac Aur Colorado. Mae Eirug yn cyflwyno ei ail lyfr i ffermwyr cylch yr efail Llannon. 'Roedd David Davies, tad Eirug, yn wr amlwg fel gôf y pentre yn Llannon. Bum yn siarad â Eirug yn ddiweddar am y llyfr, a gofynnais iddo pryd y daeth y diddordeb i fynd ar ôl hanes y Cymry a ymfudodd i'r America. Dyma oedd ei ateb: "Roeddwn wedi cyfarfod â rhai o deulu Ellis Wynne o'r Lâs Ynys, y gwr a sgrifenodd y clasur hwnnw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Erbyn tua 1850 gwelwyd bod angen gwneud ymdrech i ddod â'r Cymry yn fwy at ei gilydd er mwyn cadw'r iaith Gymraeg yn fyw". G.T.: Beth ddaeth o'r frwydr honno tybed? E.D.: Wrth feddwl am y Wladfa Gymreig - Patagonia a menter Cymry arloesol a sefydlodd yno, dyna sy'n neidio i'r cof. 'Roedd y freuddwyd yn bod cyn hyn, fodd bynnag, ac yn ystod ail ran o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd nifer o gwmnïau tir yn American West, fel Mankato, Minnesota, Kansas ac Emporia. Yn Emporia y cyhoeddwyd Colomen Columbia, sef un o'r papurau wythnosol gorau i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. G.T.: Bu tipyn o lewyrch ar bethau felly. Fedrwch chi roddi enghraifft neu ddwy? E.D.: Gallaf. Un o'r ffermwyr mwyaf llewyrchus gyda magu gwartheg yn Kansas oedd gwr a'i deulu o Penclog, Llanddeiniol. Ac yn Minnesota 'roedd bardd gyda'i rieni o Lannon (Ceredigion). Ar ôl cyfnod o galedi ar y dechrau, daeth y rhan fwyaf o'r ffermwyr o dras Cymreig yn rhai llewyrchus dros ben. G.T.:A bu i hynny arwain at fywyd diwylliannol y cymunedau yn America? E.D.:Do, yn bendant. 'Roedd capel yn cael ei sefydlu ym mhob ardal bron. Hefyd cymdeithasau llenyddol; y gymanfa ganu mewn bri ac eisteddfodau yn cael eu cynnal yn llenyddol. G.T.:Diolch i chi Eirug am roddi peth o hanes America. Mae cysylltiadau Americanaidd â Dyffryn Aeron yn niferus. Siwrne hapus i chi nôl tros yr Iwerydd. Hwyrach y cawn ni hanes beirdd a chantorion o Gymru a ymfudodd i'r America. Cofio wrth reswm am ganmlwydd marw y Dr. Joseph Parry.
|