" Ar ôl helynt ym maes awyr Manceinion, lle bu bron i mi a Sara fy nghyd-deithiwr, golli'r awyren o ganlyniad i draffig trwm. Cyrhaeddom faes awyr Helsinki a mynd ar goll wrth geisio dod o hyd i'n bagiau. Bu halibalŵ wedyn wrth geisio mynd yn ôl drwy'r drysau diogelwch i nôl y bagiau.
Tra yn Helsinki bûm yn aros mewn hostel gyda Sara o Gymru, Thomas o Ogledd Iwerddon a Moonika o Estonia. Yn ystod y ddau ddiwrnod byr yma bûm yn ymweld â nifer o atyniadau'r ddinas gan gynnwys y Stadiwm Olympaidd; Sunomelina, caer neu fort a fu yn allweddol yn hanes Ffindir; Eglwys wedi ei dyllu i mewn i'r graig; bwyty a thema "ZETOR" ; a chofeb Sibelius y cyfansoddwr. Yna rhaid oedd neidio ar y trên ar siwrnai fer i ddinas Hyvinkää.
Roedd fy nheulu cyfnewid yn byw yng nghyffiniau Hyvinkää, mewn ardal wledig o'r enw Kytaya. Pan gyrhaeddais i'r llety yr oeddwn am aros ynddo am weddill fy amser tra yn y Ffindir, teimlais fy mod wedi mynd yn ôl mewn amser. Bwthyn bach melyn ydoedd gydag un ystafell wely, cegin â phopty bara mawr a fyddai'n gwresogi'r tŷ, toiled drydan ac ystafell fyw fychan. Bûm yn pendroni am sbel, ble oedd gweddill y teulu yn mynd i aros, a ble oeddwn i yn mynd i ymolchi, gan nad oedd bath na chawod yn agos i'r lle.
Wedi dadbacio daeth pethau ychydig yn fwy clir, dim ond myfi a fyddai yn aros yn y bwythyn bach melyn, roedd gweddill y teulu yn aros yn y tŷ mawr yr ochr arall i'r berllan. Yn y tŷ mawr y byddwn yn bwyta ac yn ymolch ac yn treulio tipyn o fy amser sbâr, gan ei fod lawr yn gynhesach!! Cwrddais â'r teulu i gyd yma am y tro cyntaf, Marika y ferch oedd am fy nhywys wrth aros gyda'r teulu. Roedd Tauno ei thad wedi ymddeol ac yn ffermio coedwig fechan yn ei amser sbâr. Cydlynydd 4H Hyvinkää oedd Aino ei mam. Anodd iawn oedd ceisio cyfathrebu gyda'r rhieni gan mai ychydig o Saesneg a siaradai'r fam, ar unig air Saesneg a deallai'r tad oedd coedwig!! Roedd gan Marika ddwy chwaer a brawd, ond roeddynt i gyd wedi priodi ac yn byw yn y ddinas. Teulu traddodiadol a hen-ffasiwn iawn oeddynt, yn ailgylchu pob dim. Roedd ganddynt hyd yn oed toiled compostio!! Rhywbeth yn debyg i'r sied ar waelod yr ardd!!
Tra ar fy ymweliad gyda'r teulu bûm yn gwneud nifer fawr o weithgareddau yn cynnwys; ymweliadau ag amgueddfeydd gwahanol, garddio, golchi ffenestri'r tŷ, gweld band lleol yn chwarae mewn bar, gwersyll haf ar gyfer aelodau 4H a chyngerdd o gerddoriaeth a dawnsio traddodiadol. Ond mae yna ddau weithgaredd sy'n sefyll allan yn y meddwl.
Y cyntaf yw dathliadau'r "Midsummer", mae'n debyg iawn i ŵyl y banc yn y wlad yma. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn, y diwrnod hiraf, nid yw'r haul yn machlud o gwbl. Maent yn dathlu'r ffaith yma trwy godi'r faner tu allan i'r tŷ, cynnu coelcerth wrth ymyl y llyn, a chael Barbiciw. Maent hefyd yn mynd i'r sawna ac yn defnyddio brigau'r goeden fedw er mwyn ymolchi. Dyna oedd profiad mynd i'r sawna, roedd y teulu i gyd yn mynd yn noethlymun!!
Yr ail weithgaredd sy'n sefyll allan yw mynychu'r oedfa, ond nid mewn eglwys na chapel, ond yn hytrach mewn hen ysgubor. Roedd yna awyrgylch gwahanol iawn yma, gan iddynt gynnal yr oedfa yng ngolau'r gannwyll, a chyfeiliant wrth acordion a ffidil. Anodd iawn oedd deall beth a oedd yn cael ei ddweud yn yr oedfa gan ei fod yn cael ei chynnal yn uniaith Ffinneg. Serch hynny roeddwn yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd ar adegau megis gweddïo, darllen a'r casgliad.
Y prif bethau a sylwais am yr ardal oedd bod cymaint o lynnoedd a choedwigoedd yn y wlad. Roedd yna hefyd gaeau mawr, llawer yn fwy na welir yng Nghymru. Nid oedd y caeau yma yn cael eu hamgylchynu gan gloddiau a chlwydi chwaith, yn hytrach byddai yna ffos yn rhedeg o'u hamgylch ac wrth ymyl y ffordd fyddai'r ffos yma yn ddwfn iawn. Yn yr ardal y bûm i yn aros ni welais anifeiliaid yn pori yn y caeau, gan eu bod yn canolbwyntio mwy ar dyfu cnydau yn hytrach na chadw anifeiliaid. Bûm yn ymweld ag un fferm odro, a fyddai yn godro ryw bedwar ar hugain o wartheg, byddai hyn yn cael ei chysidro yn fferm odro faint canolig yn y Ffindir. Sylwais hefyd fod nifer fawr o bobl yn beicio yn y Ffindir, boed yn y wlad neu'r ddinas. Byddai pobl o bob oed yn defnyddio ei beic fel math o gludiant, ac yn aml gwelwyd basged ar flaen y beic er mwyn cario nwyddau. Cefais y profiad o fynd ar y beic, profiad dychrynllyd yn wir, gan nad oedd brecs ar y beic!!
Roedd hi'n agoriad llygad i fynd i'r Ffindir ac yn ystod y bythefnos a threuliais yno, dysgais gryn dipyn am y bobl a'i harferion, eu ffordd o fyw a'u hiaith."