91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
John Charles John Charles 1931 - 2004
Mehefin 2004
'Roedd hi fel petai rhagluniaeth wedi trefnu mai ar Ddydd Gŵyl Ddewi y cynhaliwyd angladd y pêl-droediwr gorau a welodd Cymru erioed.


Ganwyd William John Charles yn Cwmdu ger Abertawe i deulu digon tlawd ei byd. Dywedir mai ffa ar dost oedd pryd arferol y teulu gyda ffowlyn ar ddydd Nadolig.

'Roedd John Charles yn ddyn cryf a chadarn yn mesur 6 troedfedd 2 fodfedd ac yn aml byddai'n ymddangos fel cawr ar y cae oherwydd ei daldra a'i gryfder. Er hyn 'roedd hefyd yn ystwyth ac yn gyflym ar ei draed ac fe'i disgrifiwyd fel un o athletwyr gorau yr ugeinfed ganrif.

Ymunodd John Charles â Juventus, un o' r clybiau enwocaf yn y byd, yn 1957. 'Roedd Juventus wedi gorffen yn agos i waelod y tabl y tymor cyn i John Charles ymuno â nhw. Ond yn ystod y pum tymor nesaf fe wnaethant ennill pencampwriaeth yr Eidal, y Scudetto tair o weithiau gyda John Charles yn sgorio 93 gol mewn 155 gêm. 'Roedd hyn yn record anhygoel mewn cynghrair sy'n enwog am fod yn amddiffynnol a negyddol. Dewiswyd John Charles rai blynyddoedd yn ôl fel y chwaraewr tramor gorau erioed i chwarae yn yr Eidal gan guro pobl fel Michel Platini, Marco Van Basten, Zinedise Zidane a hyd yn oed y chwedlonol Diego Maradona.

Er cystal oedd record sgorio John Charles nid yw hyn ond hanner y stori. 'Roedd yna rywbeth arall a oedd yn gosod John Charles ar wahân i bawb arall a hynny oedd y ffordd 'roedd yn ymddwyn at y cae. Er gwaethaf ei faint ni fyddai byth yn defnyddio ei gorff mawr a chadarn i ennill mantais annheg. 'Roedd bob amser yn ymddwyn yn gwrtais a bonheddig ar y cae. Mewn gêm 'local derby' yn erbyn Torino fe wnaeth John Charles neidio am y bêl a tharo yr amddiffynnwr yn ddamweiniol. 'Roedd yr amddiffynnwr ar lawr a'r llwybr at y gôl yn glir i John Charles. Yn lle rhedeg at y gôl, fe giciodd John Charles y bêl dros yr ystlys fel bod yr amddiffynnwr yn gallu cael triniaeth. Gweithredoedd fel hyn a nifer o rai tebyg a enillodd iddo'r llysenw y Cawr Addfwyn (The Gentle Giant). Yn wir, ni dderbyniodd garden goch na hyd yn oed garden i felen yn ystod ei yrfa.

Y mae yna ryw dristwch yn perthyn i hanes John Charles ar ôl i'w gyfnod ar y brig gyda Juventus ddod i ben. Ar ôl gorffen chwarae bu'n rhedeg tafarndai a siopau chwaraeon ond 'roedd ei natur garedig a'i haelioni yn ei wneud yn hollol anaddas i fod yn ddyn busnes. Arweiniodd hyn at drafferthion ariannol a fu gydag ef am weddill ei oes.

Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r bachgen swil a diymhongar o gyffiniau Abertawe a fagwyd ar 'beans' ar dost yn datblygu i fod yn un o'r chwaraewyr pêl-droed gorau a welodd y byd erioed?

'Roedd ei gorff tal a chryf yn ei osod yn llythrennol ben ac ysgwydd yn uwch na phawb arall ar y cae. 'Roedd ei sgiliau ar y cae yn ei osod ben ac ysgwydd yn uwch na neb arall. Ond yn fwy na dim 'roedd ei ymddygiad ar y cae yn ei osod ben ac ysgwydd yn uwch na neb arall.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý