Roeddent wedi mynd ar eu ceffylau i ymweld ag Evan Morgans, Perth-y-Gwenyn, Llanrhystyd a oedd yn ddifrifol wael. Yr oedd yn fore braf ond buan daeth yn storom fawr - y mellt a'r taranau a'r glaw trwm ac yn union yr oedd y nentydd a'r afonydd wedi gadael eu gwelyau, ac yn achosi difrod i'r pontydd, i'r adeiladau ac i fynwent Llannon.Roedd yr afon Fallen wedi gorlifo ei glannau ac arllwys y llif i bentre Talsarn. Fe ddaeth y Doctor a'i was, er wedi oedi am ysbaid ym Mhlas Y Gelli, ond methwyd a'u perswadio i aros hyd nes y peidiai'r storom. Fe gollodd y ceffylau eu traed a thaflwyd y doctor a'i was i'r dwr. 'Roeddent yn gweiddi am help ond nid oedd gobaith gan y pentrefwyr estyn help llaw i'w hachub. Cafwyd eu cyrff mewn dyddiau yn y dyfroedd oerion. Actorion lleol 'Roedd y bobl leol yn chwarae rhan y prif gymeriadau a'r sylwebwyr hefyd yn cyfrannu o'u profiadau am ddigwyddiadau cyffelyb. Cafwyd sylwebaeth gan y Doctor Herbert, Aberaeron, y Parchg. Stephen Morgan, Tom Jenkins a Gret Jenkins, Trewilym, Ben Jones a Beryl Jones, Gwastod. Soniodd y ddau yma am eu profiadau erchyll yn ystod storm Awst 1957 pan fu bonyn coeden yn atal y dwr rhag llifo drwy bont Athen. Aeth y llif yn syth i dy ac adeiladau allan y fferm gan beryglu bywyd dyn ac anifail. 'Roedd Nigel Rogers-Lewis, or-or-or-or-or-wyr i Doctor John Rogers wedi dod â lluniau o'r teulu i'w arddangos. Mae'r Doctor wedi ei gladdu ym mynwent Nantcwnlle a barrau yn amgylchynu ei fedd. Ond ble mae Dafydd Jones wedi ei gladdu a phle'r oedd yn byw?Mae Tegwyn Jones wedi ysgrifennu baled am yr amgylchiad trist hwn. Dyma ychydig o'r cynnwys: "A'r Doctor Rogers, Abermeurig, A'i was gadd lewyg marwol loes, Gerllaw Talsarn ar eu ceffylau Fe ddaeth y ddau i ddiwedd oes. Y llifeiriant gwyllt a'u daliodd Ar y ffordd heb le i ffoi. 'Doedd neb i safio'r rhain rhag boddi - Trwm fu'r cledi ddarfu eu cloi. Yr oedd hi'n galed yn ddi-gelu, I weld y ddau mewn cenlli o ddwr, Heb neb i'w codi o'r llif-ddwr cadarn Ym mhentre Talysarn yn siwr. Yn afon Aeron caed eu celain, Chwerw ddamwain ddaeth i'r ddau! Am Doctor Rogers trwy'r gymdogaeth Y bydd mawr hiraeth i barhau.
|