Mae Ysgolion Felinfach a Thregaron yn cydweithio i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol fel rhan o brosiect Gwreiddiau ac Adenydd.
Enwau'r ymwelwyr oedd Wolfgang ac Anni o'r Almaen, Bogdan a Maria o Wlad Pwyl, Renza a Luisa o'r Eidal a Christian a Karin o Awstria. Mae yna 6 ysgol yn rhan o'r prosiect.
Ar ddydd Mercher, Tachwedd 8fed aeth Mr Griffiths a Mr Jones a'r ymwelwyr ar wibdaith o gwmpas Aberystwyth. Ymwelwyd â'r Llyfrgell Genedlaethol yn y bore cyn mynd ymlaen i gael pryd o fwyd blasus yn Llety Parc. Yn y prynhawn cafwyd mwy o flas ar Aberystwyth wrth ymweld â'r Hen Goleg, y traeth a'r castell yn y glaw! Adrodd Mr Jones a Mr Griffiths sawl stori oedd yn perthyn i Geredigion iddynt Roeddynt yn hapus iawn wrth weld y môr oherwydd dim ond yr Eidalwyr oedd yn byw ar bwys traeth.
Ar fore dydd Iau, Tachwedd 9fed, cyrhaeddodd yr ymwelwyr yr ysgol. Buon ni'r plant yn sgwrsio am sbel gyda'r ymwelwyr a chawsom gyfle i ofyn rhai cwestiynau. Cyn mynd ymlaen i Dregaron cawsant flas ar fwydydd o Gymru wedi eu paratoi gan y staff. Diolch arbennig i Mrs Jones am ei gwaith caled.
Erbyn bore dydd Gwener roeddynt yn dechrau blino, ond rhaid oedd penderfynu beth oedd yr ysgolion yn mynd i wneud er mwyn gwella cysylltiadau. Ar ôl trafod am hir dros sawl paned o de aeth yr ymwelwyr ar daith i ffair Aberteifi yn y glaw, cyn hedfan yn ôl i'w gwledydd ar ddydd Sadwrn.
Mae Mr Griffiths yn edrych ymlaen yn barod i ymweld â'r gwelydd eraill ac wedi addo mynd ag ambell blentyn gyda ef i Wlad Pwyl, os byddwn yn bihafio! Cofiwch ddarllen Llais Aeron pob mis er mwyn dysgu beth rydym ni'n gwneud yn ystod y prosiect.
|