91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Castell Cydweli Trip blynyddol Troedyrhiw
Gorffennaf 2003
Ar ddydd Sadwrn crasboeth ym Mehefin aeth pobol Troedyrhiw ynghyd â ffrindiau o Gribyn ac o Dihewid ar eu trip blynyddol.

Ger ysgol Llanwenog yno y cawsom gwmni y Parchedig Goronwy Evans a roddodd i ni hanes y plac oedd newydd cael ei osod ar fur yr Ysgol. Plac ydyw syn coffau dau frawd, Dr. Dafydd Williams a'r Dr. Evan James Williams, y ddau frawd a anwyd ymMrynawel, Cwmsychpant.

Arbenigai Dafydd mewn Ffiseg a daeth yn awdurdod ar dechneg llunio a chynllunio awyrennau yn Farnborough. Gwyddonydd a mathemategydd disglair iawn oedd Evan James Williams. Cai ei alwn "Desin". Galwyd ef gan y Llywodraeth yn union ar ddechrau rhyfel 1939, ac ef oedd y prif ddyfeisydd i rwystro ymosodiadau'r badau U ar gonfois Prydain. Roedd ef wedi profi fod y bomiau yn cael eu gosod yn rhy isel yn y dwr, yn nwr Bae Biscay yn bennaf. Suddwyd nifer o longau oedd yn dod â bwyd o'r Amerig i Brydain. Wedi'r gwaith pwysig oedd Desin yn gyfrifol amdano, fe lwyddwyd i orchfygu grym y badau U. Fe weithiodd Desin yn galed ac erbyn 1945 'roedd ei iechyd yn dirywio, a chladdwyd ef ym mynwent Cwmsychbant ar y 29ain o fis Medi, 1945.

Oddi yma aethom i Dreboeth ger Abertawe a sefyll yno wrth Swyddfa'r Sir. Ar y wal 'roedd penddelw o Gwyrosydd (Daniel James 1847 - 1920). Ef a gyfansoddodd eiriau Calon Lân, yr emyn a ganwn ni yn fynych mewn oedfa, mewn priodas a pha le bynnag y bydd Cymry wedi ymgynnull. Dywed traddodiad John Hughes, Glandwr wedi cyfansoddir gerddoriaeth cyn diwedd y dydd!!

I gapel y Tabernacl yn Nhreforris yr aethom ac yno yr oedd y Parchedig Ieuan Davies yn ein disgwyl. Rhoddodd i ni fraslun o'r Achos, yr adeiladau a'r cyn Weinidogion a'r aelodau. Mae'n adeilad gwych ac yn llwyr haeddu cael ei alw yn Eglwys Gadeiriol yr Anghydffurfwyr yng Nghymru. Codwyd ef yn 1872 ac yn 1922 cawsant organ hardd iawn. Mae Huw Tregelles Williams yn bencampwr ar ei chwarae ac yn rhoi urddas arbennig i Ganiadaeth y Cysegr.

Cawsom gyfle yma i ganu Calon Lân. Siom er hynny oedd canfod fod yr organ ar glo a ninnau wedi gobeithio i Euros gael cyfle i'w chwarae. Pleser ac anrhydedd oedd cael y cyfle i weld y capel arbennig hwn. Fe fu un o fechgyn y fro yn Weinidog yma, y Parchedig Dewi Eirug Davies o Lambed.

Buom yn teithio hyd heolydd prysur Abertawe, y golau coch yn ymddangos yn aml, aml oedd yn ddigon i drethu amynedd pob gyrrwr. Daethom cyn hir i fin y môr, ac i ryfedduat y golygfeydd rhamantus oedd o'n hamgylch. 'Roeddem wedi cyrraedd y Mwmbwls, a chyfle yma i ymlacio uwchben diod a rhyw luniaeth ysgafn. 'Roedd y traeth yn llawn a'r bobl yn nofio neu'n padlo a'r lleill yn eistedd neu'n gorwedd yng ngwres yr haul tanbaid a fu'n cadw cwmni i ni oddi ar y bore bach.

Cyn hir yr oeddem wedi teithio drwy Benrhyn Gwyr o un pen i'r llall ac wedi dod i Rosili. Dyma le diddorol iawn, 'roedd rhai ohonom wedi mynd i Benrhyn y Mwydyn, un o ryfeddodau Natur, eraill i siopa a'r lleill i wledda ar ddanteithion Rosili. Rhaid sôn am Edgar Evans, y Cymro a aeth o Rosili i ymuno â Scot a'i griw i geisio bod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Yn anffodus buont i gyd farw yng nghanol yr oerfel eithafol, yn 1912. Mae cofeb i Edgar Evans wedi ei roi gan ei weddw ar fur yr Eglwys.

Rhaid oedd troi bellach am adref. 'Roedd gennym daith bell eto i gyrraedd "ryw westy" owedd wedi darparu swper i ni. 'Roedd dyfalu ymhle 'roedd y gwesty a neb yn fodlon rhannu'r gyfrinach. Ond gwelsom arwyddion Cydweli ac yn wir yno yng ngwesty Gwenllian y cawsom bryd blasus a lwyddodd i lenwi ein stumogau gweigion!

Yma yn 1136 ym Maes Gwenllian sydd yn un o fannau hanesyddol Cymru y lladdwyd Gwenllian a'i mab Morgan wedi iddynt ddod o gastell Dinefwr ger Llandeilo i amddiffyn tir ei gwr, Gruffydd ap Rhys, ac yntau i ffwrdd yn y Gogledd ar y pryd. 'Roedd y Norman Maurice de Londres am reibio'r tir. Mae Castell Cydweli yn un o adeiladau pwysig nir Cymry, ac mae'n hwylus iawn i fynd i ymweld â Maes Gwenllian.Cawsom drip diddorol ac addysgiadol.

Diolch i Euros am drefnu ac am yrrun ofalus drwy gydol y dydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý