Mae un o'r cofebau prydferthaf a welais i ar ben Mynydd Bach ac yng,
ngolwg Llyn Eiddwen. Cofeb yw hi i gofio pedwar o feirdd yr ardal a chafodd ei dadorchuddio ar noson braf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1992.
Roedd dau ohonynt yn brif-feirdd (wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol) sef Prosser Rhys a J.M.Edwards ac yr oedd y ddau arall, B.T.Hopkins a T. Hughes Jones - yn feirdd a llenorion o fri hefyd.
Roedd J.M.Edwards, Prosser Rhys a B.T.Hopkins yn gyfeillion mawr pan oeddent yn laslanciau ifanc ac arferent gwrdd yn aml yng nghartef Prosser Rhys i drafod eu barddoniaeth a llenyddiaeth yn gyffredinol.
Dyma fel y mae J.M. Edwards yn sôn am y dyddiau hynny yn ei ragymadrodd i "Cerddi Prosser Rhys" :
"Gorwedd y darn hwn o dir ryw hanner ffordd rhwng Llanrhystyd a Thregaron. Ardal o gorsydd brwynog gweddol wastad ydyw, ac odditani gwelir y wlad yn ymestyn tua'r dwyrain at wastadedd Cors Caron. Ar ganol cors ddiffaith y Mynydd Bach safai'r Morfa Du, cartef Prosser a thuag yno y cyrchwn i o ben isaf y fro a B.T.Hopkins o'i phen uchaf, i gynnal ein seiadau llenyddol yn gyson dros nifer o flynyddoedd".
Rwyn hoff iawn o'r cwpled sydd ar y gofeb hon: "I gofio'r gŵyr fu'n nyddu llên
Uwch llonyddwch Llyn Eiddwen ".
Mae'r llinell olaf yn ein hatgoffa o englyn hyfryd Prosser Rhys i Lyn Eiddwen:
"Lliwiau'r hwyr, hanner lloer wen - awel lesg Hwyl ŵyn, si gwenynen,
A myfi heb gwmni Gwen
Uwch llonyddwch Llyn Eiddwen ".
Mwy am Prosser Rhys
Bywgraffiad Prosser Rhys gan Meic Stephens
|