Dechreuodd y cyfan ym mis Medi 2002 pan drefnodd Siân Davies (Parc, Ciliau) i ni'n dwy gael lle i redeg drwy'r elusen Tenovus yng Nghaerdydd. Drwy gael ein lle fel yma, roedd yn rhaid i ni addo codi o leiaf £1,200 i Tenovus am y fraint o gael rhedeg. Felly pa atgofion sydd gen i am yr wyth mis diwetha ac am y marathon ei hunan? Ymarfer - oer a diflas! Yn ystod y cyfnod hwn des i adnabod sawl hewl newydd yng Ngheredigion. Mae hanner marathon Cors Caron ym mis Chwefror yn aros yn y cof a bod mewn ardal cwbl newydd i fi - byddaf yn cofio am sawl rhiw gas yn ardal Swyddffynnon ac Ystradmeurig. Yr ymarfer anoddaf oedd rhedeg ar bnawn dydd Sul oer a diflas, tua chwech wythnos cyn y marathon, o faes parcio y Co-op i Dregaron ac yn ôl. Roedd yr hewl rhwng Llanfair Clydogau a Thregaron yn diriogaeth newydd a dw i'n cofio teimlo Tregaron yn bell iawn o Landdewi Brefi. Daeth arwydd Tregaron o'r diwedd a'r gamp wedyn oedd rhedeg nôl bob cam mewn gwynt a glaw. Yn seicolegol, roedd y cyfan yn brofiad da - o leia ro'n i n gwybod mod i'n gallu rhedeg bron i un filltir ar hugain yn ara' bach a bod mewn un pishyn ar y diwedd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd des i adnabod y llwybr cerdded/beics o'r Cwmins yn Aberaeron lan i Giliau Aeron yn dda iawn. Rydyn ni'n lwcus iawn yn yr ardal hon i gael y fath lwybr a braf gweld bod nifer o lwybrau cerdded wedi cael eu datblygu o gwmpas Llanerchaeron. Roedd yr ymarfer ar adegau yn gallu bod yn ddigon poenus a diflas ond alla i ddim dweud yr un peth am godi arian. Roedd y gefnogaeth ges i yn anhygoel a bydd haelioni a charedigrwydd pobl yn aros yn y cof am amser hir. Bu'r gymuned i gyd yn Ysgol Gyfun Llanbed ynghlwm â'r codi arian, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau tu allan i'r ysgol. Rhaid diolch hefyd i sawl busnes lleol am eu cefnogaeth. Yr uchafbwynt felly oedd cyflwyno siec o £2,300 i Tenovus mewn gwasanaeth yn yr ysgol ar Fai laf. Y diwrnod mawr Ond beth am y diwrnod mawr ei hunan? Bydd sawl peth yn aros yn y cof am amser hir iawn. Roedd awyrgylch carnifal ym mhob man - cannoedd o bobl ar hyd y cwrs i gyd a cherddoriaeth byw yn dod o sawl cyfeiriad. Wrth fynd yn ara' bach o gwmpas y chwe milltir ar hugain r'on i'n teimlo fel pencampwraig ac anogaeth y dorf yn sicr yn fy nghadw i fynd. Braf oedd gweld ffrindiau wedi dod i gefnogi - un teulu wedi cadw ei hymweliad â Llundain yn gyfrinach. Ces gyfle yn Llundain hefyd i fod mewn ardaloedd cwbl ddiethr - ardal Greenwich ac ardal fusnes newydd Canary Warf yn y Docklands. Yn rhyfedd iawn aeth y pum awr yn syndod o gyflym a rhaid cyfaddef i mi fwynhau'r cyfan. Roedd croesi'r llinell ar y diwedd yn dipyn o brofiad - penllanw wyth mis o ymarfer a'r cyfan wedi talu'r ffordd. A fydden i yn ailadrodd y profiad? Cawn weld. Y paratoi oedd waetha ac yn cymryd amser ond roedd y diwrnod ei hun yn brofiad a hanner ac yn sicr yn werth ei wneud. Mari Dalis
|