91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Elizabeth yn lodes ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd Atgofion cynnar am Ffosbompren, gan Elizabeth Rahel Davies
Ebrill 2004
Dyma beth gofiaf i o'r cyfnod pan oedd nhad a mam yn byw yn Ffosbompren ger Ffosyffin. To sinc oedd i'r tÅ·, a'r glaw yn disgyn lawr ar y pafin cerrig.

'Roedd y stabal yn sownd wrtho yr ochr isaf, a sied sinc yr ochor uchaf, ac yn honno 'roedd y ffwrn i grasu bara a bord i'w gadw i oeri cyn dod ag ef i'r tŷ i'r llaethdy. Hefyd 'roedd twba yno i gadw bwyd i'r mochyn - ac fe ddaeth nhad â mashîn golchi dillad o ryw acshon, a bydde Morlais neu fi yn gorfod troi olwyn hwnnw. 'Roedd Tom heb fynd i Panteryrod hefyd ac 'roedd e'n trapo gwahaddod, a phan fydde fe'n eu blingo, fi oedd yn gorfod dala'r gole' iddo fe mâs yn y sied! - gole' cannwyll mewn canhwyllbren.

'Roedd stâr bren tu ôl drws cegin Ffoes i fynd lan i'r llofft. 'Roedd dau wely yno a ffenest yn y pen draw, a 'roedde'n ni'n gallu gweld y Iôn oedd yn dod at y tŷ o'r hewl drwy honno. Ar hyd y lôn fydde ni'n mynd i'r eglwys. 'Roedd nhad a mam yn cysgu yn y parlwr, a Ifan a Dinah wedyn mewn cadair siglo ar eu pwys. Os bydde rhywun yn sâl, 'roedde'n ni'n cael bod yn y parlwr yn y dydd a 'nôl i'r llofft y nos.

Bu Ifan yn wael iawn am rai misoedd, - cafodd dwbwl-pneumonia pan oedd yn dechre cerdded - tua blwydd oed, a'r doctor yn synnu ei weld yn gwella. 'Roedd mam yn gofidio sut oedd e'n mynd i gerdded i'r ysgol, ac fe fu'n rhaid i fi ofyn i'r athrawon am gael menthyg llyfr i'w ddysgu i ddechrau darllen a gwneud syms. Fe ges i siom fawr pan fuodd e' farw.

Gwaith Morlais oedd mynd gyda mam yn gwmni i odro. 'Roedd y beudy yr ochr arall i'r clôs, a'r sgubor un pen a crwt lloi pen arall. 'Roedd tomen fawr ar waelod y clôs a bydde'r ieir yn hela lot o'u hamser yn crafu ar ben honno gyda'r ceiliog. 'Roedd clwyd ochr draw i'r domen a thwlc y moch, a hefyd rhyw fath o shed i gadw'r ieir a'r gwydde', a toilet sinc. 'Rwy'n cofia i'r clacwydd redeg ar fy ôl unwaith, a mam yn dweud mai am fod yr wydd yn gori oedd y rheswm.

'Roedd nhad yn aros lot yn y stabal gyda'r ceffylau ar ddiwrnod gwlyb, - a darllen Y Perl neu'r Cyfaill Eglwysig. 'Roedd stâr gerrig tu fâs yn sownd wrth dalcen isa'r stabal i fynd i llofft y stabl a bydde ni'n mynd i chware rhedeg lan a lawr ar honno, ac o'n ni'n gallu gweld y môr a Bae Ceredigion oddi arni - ac ar ddiwrnod clir, Cei Newydd!

'Roedd llwybr trwy dop Cae Rhewyn ac i lawr i sticil ac i gae Tŷ'n porth, ac yn groes trwy'r cae i glwyd ar bwys tŷ Ifan Owens. Tu fâs i'r glwyd oedd yr hewl fawr, a dyna'r ffordd oedde'n ni'n mynd i'r ysgol. 'Rwy'n cofio am yr hewl fawr yn cael tar am y tro cyntaf. Bydde'n ni'n hela lot a amser wrth ddod adre' o'r ysgol i weld sut oe'n nhw'n rhoi tar ar yr hewl. Rhywbeth fel casgen fawr, a thân coch o'dani a pheipen yn cario'r tar poeth, a dyn â menyg am ei ddwylo yn taenu'r tar dros y cerrig i gyd. 'Roedd pridd rhwng y cerrig hefyd a llawer o ddynion a lorïau yn caria'r stwff a rywle. 'Roedde'n ni'n gorfod cerdded yn dynn yn y clawdd am rhyw ddiwrnod, a wedyn galle'n ni gerdded dros yr hewl dar - ond gofalu peidia damsgen ar ambell i lwmpyn a dar, achos 'roedd e'n stico yn ein sgidie ni!

'Ro'n i'n dweud Tŷ Ifan Owens, achos 'roedd Ifan Owens yn dod lan bob gwanwyn rhyw ddwywaith â llond ei ddwy fraich a riwbob i mam, - a bydde ni'n cael sawl tarten a pwdin 'charlotte' ohony' nhw. 'Roedd mam yn treio cael digon a riwbob o'i gardd hi i Mary gael tarten ar ei phenblwydd ar y 19eg a Fis Bach. 'Roedd Mary yn gwasanaethu yn 'Poplars' Aberaeron, cartref offeiriad Aberaeron wedi ymddeol, ac 'roedd dwy chwaer iddo yn byw yno hefyd.

'Rwy'n cofio un nos Sul yn y gaeaf - nhad wedi mynd i'r cwrdd i'r eglwys. Aeth mam mâs i odro a Morlais neu Tom gyda hi, a finne a Griff yn y tŷ a Ifan yn y gadair. Dyma hi'n rhedeg 'nôl i'r tŷ a gofyn i fi i redeg i'r eglwys i nôl nhad i ddod adref gynted ag y galle fe, am fod un o'r da - buwch ddu o'r enw Doll wy'n credu - wedi bwrw ei chyde'! 'Rwy'n credu mod i wedi gofyn a gâi Griff neu Morlais ddod 'da fi - ac fe redo'n ni bob cam, a mewn a fi i'r eglwys a gweud wrth nhad y neges, a 'nol adre â ni gan redeg bob un! Ar ôl nhad weld beth i'w wneud, gorfod i fi a Morlais redeg lan i Lain Isaf i holi i Dafi a ddaethe fe lawr i helpu nhad i roi y cydau 'nôl yn y fuwch. Y rheswm oedd bod ei ddwylo fe'n llai ac yn fwy ystwyth, a bu mam yn cario dŵr poeth i gadw'r dwylo'n boeth, a'r perffedd, - ac fe lwyddon'. '

Roedd Dafi'n gwybod fod peth o'r enw 'breeches' i'w gael yn Sychbant i roi am ben ôl y fuwch i stopio'r cydau ddod mâs 'to. Nhad aeth i holi am hwnnw. 'Rwy'n credu mai tua saith neu wyth oed oeddwn i ar y pryd, ac 'roedd golau'r sêr mâs, ond nid wy'n cofio a oedd lleuad yn y golwg. Fe wellodd y fuwch, ond wn i ddim ble'r aeth hi wedyn, ond 'rwy'n credu iddi nhw ei chadw am sawl blwyddyn arall.

'Rwy'n cofio Ifan yn cael ei eni, oherwydd y wraig oedd yn dod i dendio main oedd Leisa Llain Isaf, gwraig Dali fuodd yn helpu nhad gyda'r fuwch. Dydd Sadwrn Pasg oedd hi, y 26ain o Fawrth 1921, a phan oedd hi'n dod mewn drwy'r drws dyma hi'n gweiddi 'Haleliwia', a bob tro bydde' hi'n dod yn y bore, 'roedd hi'n gweiddi 'Haleliwia'. 'Roedd ganddi ddwy ferch, Jane a Hannah, ac 'roeddent yn edrych ar ôl ewythr iddynt yn Mydroilyn - y bardd 'Granellian', - mae 18 o'i benillion ef yn Cerddi Ysgol Llanycrwys.

'Rwy'n cofio nhad yn mynd â Morlais a fi i weld pobol Aberaeron yn llosgi casgenni o dar, a chynnau coelcerthi i ddathlu diwedd y Rhyfel Fawr 1914 - 18 ar dop Rhiw Goch. A rhyw ddiwrnod tua'r un adeg yn y prynhawn hedfanodd rhyw fath o falwn a rhaff yn hongian oddi wrtho fe dros Cae Llyn, a disgynnodd yn y cae tu ôl i Panteg, Aberaeron, a buwyd lawr i Rhiw Goch i weld hwnnw hefyd. 'Doedd neb yn cael mynd yn agos iddo fe.

'Roedd Let a Mary a William wedi gadael yr ysgol cyn i fi ddechrau yn 1919, ac 'rwy'n cofio am Annie Maesnewydd yn cydio yn fy llaw y diwrnod cynta' es i'r ysgol. 'Roedd Tom a Morlais hefyd yn mynd 'run pryd â ni, a dwy chwaer i Annie - Morina a Cathleen.

'Roedd Let yn gweithio yn fferm Felindre, Talsarn ac 'roedd hi'n hoffi dweud stori am y 'tarw'i 'Roedd e' wedi torri mâs o'i sied ar noson olau leuad, a gwneud rhyw lanast ofnadwy ar y clôs i'r bwcedi godro achos, 'roedd y lleuad yn sheino arny' nyw a'i hela fe'n gynddeiriog! 'Roedd pawb wedi dihuno gyda'r sŵn, a gorfod i ddau o'r meibion godi o'u gwelyau a mynd i hôl rhai o'r gwartheg o'r caeau i'w dawelu, a phawb arall yn edrych ar y sgarnes o ffeestri'r llofft. Fe dawelodd y tarw, ac aeth pawb 'nôl i'w gwelyau, ond 'roedd golwg ofnadw drannoeth ar bethau ar y clôs!

Penrhiw

Pan ddaeth Morlais a Griff a fi adre o'r ysgol un prynhawn ym mis Medi 1925, 'roedd 'ffys' fawr ac y clôs, a chart bach ac asyn o flaen y drws ac Anti Leisa a mam yn cario pethau mâs o'r tŷ i'r cart. Nid wy'n cofio a oedd mamn wedi dweud eu bod nhw yn symud i fyw i rhywle arall, er efallai iddi ddweud wrtho' ni am ddod adre'n gloi o'r ysgol.

'Dwy'i ddim yn codio sut aetho'n ni lan i Penrhiw mewn gambo neu gart? ond rwy'n fod Let a Mary yn cysgu gyda ni yn Penrhiw y noswaith gyntaf. Nid wy'n cofio pwy ddiwrnod oedd hi, ac a aetho'n ni i'r ysgol drannoeth! 'Ta beth, fe gerddais i rownd y clôs i weld beth oedd yn y 'buildings' mawr i gyd. 'Roedd 'ffys' fawr yn y tŷ i roi'r gwelyau a'r dodrefn yn eu lle, ac rwy'n cofio mai ar lawr y llofft y cysges i a Griff y noswaith gyntaf!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý