Y funud nesaf bloeddia "Ffŵl Ebrill, mae'n aeaf o hyd". Un felna yw e'. Ond, rhaid maddau iddo, oherwydd nid oes ei fath am baentio enfys ar fynwes y cwmwl mwyaf bygythiol.
Ac, wrth gwrs, ef sy'n croesawu'r gwcw i Gymru. Gobeithio y llwydda i ddenu mwy ohonynt eleni i'r parthau hyn. Digon prin oedd ei nifer, mi allwn feddwl, llynedd. Er imi fynd ar ei thrywydd, droeon a thro, methais yn deg a chlywed ei deu-nod. Pan oeddwn i'n blentyn 'roedd hi wrth ei bodd yn canu i ni ym mhentref Chancery. "Gormod o bwdin a daga gi", medde'r hen air. Mor wir yw hynny. Ymhell cyn i'r gôg ffarwelio â ni, byddai'r ias wedi diflannu o'i chân. "Ebrill, bydd yn fwy cynnes dy groeso iddi eleni. Hwyrach y caem ei chlywed wedyn yn ymarfer ei hunawd soniarus.
Ni ddaeth Ebrill erioed i'm cyfarfod heb fy atgoffa am ddwy delyneg gofiadwy. Un Saesneg, o waith Katherine Tynan, yw'r naill. Enfyn honno, "Sheep and Lambs", ias i fyw fy nghalon, pan ddarllenaf hi. Y mae trosiad Cynan ohoni, "Defaid ac Wyn", yn fendigedig. Mynnwch i darllen. "Sul y Blodau", Eifion Wyn, yw'r llall. Y mae'r gwpled: "Chwe briallen fach a ddywed
Mai yr haf yw hi"
yn hyfryd i'r glust, ond blodyn y Gwanwyn, nid yr Haf, yw'r friallen. Ar waetha'r gwall hwnnw, enillodd Sul y Blodau em calonnau. Wel, dyna ddigon o ragymdaroddi. Dyma dair cân i lenwi'r Cornel.
Mr. Iolo Evans bia'r gyntaf. Cafodd ei gadeirio am hon yn Eisteddfod Peniel, Aberaeron.
Crwydro
'Rwy'n cofio pan gartref ar aelwyd o'r nhad,
Yn crafu bywoliaeth ar damaid o stâd;
Gweld dyddiau bach gweddol, ond hefyd rha llwm,
Gwneud ffortiwn oedd anodd a erwau'r hen gwm.
Ond yno y bum am gwrs a flynyddoedd,
A'r amser yn treiglo, ond gwella nid ydoedd;
A'r wasgod yn gwasgu yn dynnach o hyd
A chododd rhyw awydd i grwydro'r hen fyd.
Gellir weld y farddoniaeth yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Mis Mai o Llais Aaron.
Rwy'n siŵr eich bod wedi hoffi honna. Y mae Mr Evans yn gallu mydryddu mewn dull cartrefol a syml. Wn i ddim pan yr odlodd 'sôn' a 'chalon' yn ei bedwerydd pennill. Y mae ei glust yn ddigon main, 'rwy'n sicr, iddo wybod nad ynt yn odli. Mae'n debyg fod gofyn ail-adrodd yr hyn a ddywedais yn y fan hon, dro 'nôl, fod y geiryn 'pan' yn hawlio fod berf yn ei ddilyn. Ar waetha'r brychau hyn, cân hyfryd yw hon.
Hen gyfaill, Mr Aeron Davies, y Felin-fach, yw awdur yr ail. Diolch am ei deyrnged i'r ddiweddar ers Elizabeth Evans. Unwn gydag ef i gwyno ein colled, a byddwn yn gwneud hynny am amser i ddod. Drwy sôn am Mrs Evans fel "dolen gyswllt" yn y bedwaredd pennill, hawlia hynny fod y gair "rhwng" yn dod ar ddechrau ail linell y pennill. Dyma'i werthfawrogiad o fywyd un nad oedd ball ar ei gweithgarwch.
Teyrned
i'r ddiweddar Elizabeth Evans, Pantygwiail
Yn dawel orffwys yn ei hun
A thoriad gwawr yn arfaeth
Mewn orig fel fe gollwyd un
Oedd drysor o wybodaeth
Bu'n Brifathrawes frwd o'i bodd
Yn dysgu'r iawn heb flino
A naws pob gwers yn wreiddyn nodd
Yn nerth, i blentyn lwyddo.
Gellir weld y farddoniaeth yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Mis Mai o Llais Aaron.