Mae Clwb Ffermwyr Ifainc Felinfach wedi bod yn cydweithio â Phwyllgor Neuadd Felinfach er mwyn eu cynorthwyo â'r gwaith o adnewyddu neuadd y pentref.
Yn dilyn cyfarfodydd penderfynwyd y byddai aelodau'r clwb yn ymgymryd â'r gwaith o ffensio tu ôl y neuadd, rhwng cae fferm Lloydjack a'r maes parcio bychan.
Erbyn hyn mae'r ffens wedi'i osod ynghyd â mainc i'w eistedd arni yn y maes parcio. Yn y Gwanwyn bydd y bylbiau a blannwyd wrth ochr y neuadd wedi blaguro hefyd (gobeithio!).
Er mwyn ariannu'r prosiect, manteisiodd y clwb ar grant sydd ar gael trwy gynllun Her y Gymuned gan C. Ff. I. Cymru.
Hoffai'r aelodau ddiolch i Amaethwyr Ceredigion a Chlunderwen am werthu'r nwyddau am brisiau cystadleuol. Bydd yr aelodau yn gwneud cyflwyniad ar y gwaith yn y Sloe Aeaf yn Llanelwedd ar ddechrau mis Rhagfyr.
|