Cynhaliwyd llu o weithgareddau dros dridiau gan Bwyllgor Henoed yr ardal. I ddechrau ar y nos Iau, cynhaliwyd Helfa Drysor. Daeth llu o ymgeiswyr a chafwyd llawer o hwyl wrth ddadansoddi'r cliwiau. Aeth un car ar goll, tybed os yw e' wedi cyrraedd 'nôl erbyn hyn! Yr enillwyr oedd Steve a Margaret, Bronygaer a Cynthia, Banc Villa. Yn ail, Eurwen Blaenwern, Bethan Pensarnfach, Eluned Bryniau a Betty Gerallt ac yn drydydd, Emyr, Olive a Rhydian Delfan. Da iawn chi, 'roedd gwledd yn disgwyl pawb yn ôl yn y pentre'. 'Roedd wyth o dîmau yn cystadlu yn y gystadleuaeth pêl-droed ar y nos Wener. Y ddau dîm a ddaeth i'r brig oedd Cei Newydd a Llambed, gyda thîm Cei Newydd yn ennill ar y nos Sadwrn. Cyflwynwyd tlysau i'r chwaraewyr a chwpan i'r tîm buddugol. Cafwyd cystadlu gwych eto yn y Carnifal ddydd Sadwrn. Y beirniad oedd yr enwog Gillian Elisa (Sabrina ar Pobol y Cwm). Diolch iddi am gloriannu'r cystadleuthau ac am ei chyfraniad ariannol i'r achos. Y cyhoeddwr oedd Alan Henson. Enillwyd Cwpan Sialens Owerx, Maesyronnen i'r plentyn â'r marciau uchaf yn y carnifal ac sy'n byw yn nhalgylch Ysgol Cribyn, gan Ianto, Frongelyn, a'r cwpan am y wisg orau o blith yr oedolion gan Keith Henson. Yn dilyn, cafwyd y mabolgampau a llawer o fwynhâd wrth wylio'r cystadlu. Enillwyd Cwpan Sialens Evan Lloyd Davies am Gwrs Menter; Beics gan Jonathan, Dyffryn (dalgylch Ysgol Cribyn yn unig) a ras traws-gwlad gan John Suart, Dwynant. Llywydd y dydd oedd Eilir Jones, Brynderi (gynt o Llechwedd-dderi Uchaf), bachgen a fagwyd yn yr ardal ac sydd wedi aros yn ei filltir sgwâr. Diolch iddo am araith ddymunol a rhodd anrhydeddus. Diolch hefyd i swyddogion ac aelodau Pwyllgor yr Henoed am eu gwaith cydwybodol dros yr achos, ac i bawb a fu'n cynorthwyo a chystadlu dros y tridiau i sicrhau llwyddiant y fenter. I bawb hefyd a gefnogodd yn ariannol a chyda'u presenoldeb. Bu'n gyfle gwych i gymdeithasu.
|