91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Llun o Tomi, Beti a Gareth yn portereadu cymeriadau'r nofel Caryl Lewis Caryl yn Lansio Nofel Newydd
Chwefror 2005
Adroddiad am noson i'w chofio ar fws dybl-decar i ddathlu lansiad nofel newydd Caryl Lewis.

Cyhoeddwyd nofel newydd Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco ar y 5ed o Dachwedd. Cafwyd lansiad i'w chofio y noson honno ar fws dybl-decar!

Llwyddodd y gyrrwr bws fynd â chriw hapus ar hyd y ffordd gul i Bryngwyn Canol (ger Rhydypennau) ac yno, ar yr aelwyd yr oedd Caryl wedi trefnu i dri actor o Ddyffryn Aeron i bortreadu'r cymeriadau Martha, Jac a Sianco. Diolch i Mrs. Buddug James Jones am ei chroeso ac am ganiatau i droi'r gegin yn theatr am y noson. Pwy ond Caryl allai drefnu'r fath beth!

Aeth y bws ymlaen wedyn i Llanfihangel-y-Creuddyn i dafarn y Farmers i wylio tân gwyllt a gwrando ar ddarlleniadau gan Caryl a Arwel Jones, oedd hefyd yn lansio ei gyfrol yntau Jambo Caribw ar yr un noson.

Martha, Jac a Sianco yw ail nofel Caryl, sy'n awr yn byw yng Ngoginan ond a fagwyd yn Aberaeron ac yn Ffosdwn, Dihewyd. Mae themâu'r nofel hon a'r cymeriadau mor wahanol i'w nofel gyntaf Dal Hi! ag y gallai dwy nofel fod.

Hanes teulu'r Graig-ddu a gawn yn hon a hen ferch a dau hen lanc yw'r prif gymeriadau. Down i'w hadnabod wrth iddyn' nhw gydweithio, a chweryla a rhegi ei gilydd wrth wneud gwaith y fferm. Nofel dywyll, sy'n defnyddio brain a hyd yn oed piano fel symbolau wrth ymdrin â themâu cyfoes.

Mae Caryl yn gallu creu stori dda ac mae'r nofel yr un mor ddarllenadwy â'i nofel gyntaf. Disgrifiodd Wil Sam hi fel "Nofel eithriadol o bwerus sy'n swyno ambell dro ac yn dychryn dro arall."


Cyfrannwch

Dyfel Evans o Delford
Fel plismon nawr yn gweithio yn Wolverhampton pleser yw cael darllen y Llais Aeron am bedwar o'r gloch y bore tra'n gweithio y shift nos. Fel un o feibion gefn gwlad a godwyd yn Nyffryn Aeron pleser yw gweld fod traddodiadau'r ardal dal yn gry.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý