Ar ddydd Sadwrn, Mai 7fed, bu tîm Ysgol Aberaeron yn cynrychioli sir Geredigion yng nghystadleuaeth 7 bob ochr Cymru. Yn y gêmau grŵp chwaraewyd yn erbyn Gwenffrwd o Dreffynnon, y Gelli o Gaernarfon a Machynlleth. Dyma'r canlyniadau: Gwenffrwd 0 - Aberaeron 1 (Christopher Alldritt) Caernarfon 0 - Aberaeron 1 (Christopher Alldritt, Henry Jones) Machynlleth 0 - Aberaeron 1 (Siôn Jones) Wedi ennill y grŵp fe aeth y tîm ymlaen i'r rownd gynderfynol yn erbyn Llanishen Fach o Gaerdydd. Cafwyd perfformiad da iawn yn y gêm yma a llwyddo i ennill yn gyffyrdddus: Llanishen Fach 0 - Aberaeron 3 (Jack Evans, Henry Jones, Rhydian Davies) Felly, ymlaen i'r rownd derfynol yn erbyn Dinbych-y-pysgod. Gwelwyd gêm ardderchog o safon uchel iawn gyda dim i wahanu'r ddau dîm hyd yn oed ar ôl amser ychwanegol. Bu rhaid cymryd ciciau cosb i wahanu'r ddau dîm - ac wedi 7 cic yr un, Aberaeron enillodd gyda Jack Barlow, y gôl geidwad, yn sgorio'r gôl fuddugol. Llongyfarchiadau mawr iawn i holl aelodau'r garfan a'r hyfforddwr Mr. Robert Jones ar ennill y gystadleuaeth genedlaethol yma am y tro cyntaf yn hanes Ysgol Gynradd Aberaeron. Aelodau'r garfan oedd: Henry Jones (capten); Jack Barlow; Siôn Davies; Liam McAuley; Rhydian Davies; Christopher Alldritt; Jack Evans; Siôn Jones; Dewi Jones; Conor Page; Rhodri Thomas. Hyfforddwr: Mr. Robert Jones.
|