Dros gyfnod o ddeunaw mis bu'r ysgolion, Sefydliad y Merched, Cymdeithas Hanes Llannon, Clwb Ffermwyr Ifanc a Llais Pennant, o dan arweiniad Mr. Dewi Ellis, yn cyd-weithio ar y project.
Fel rhan o'r project, bu plant yr ysgolion ac oedolion o'r cymunedau yn cyfweld trigolion lleol yn hel atgofion o'r cyfnod. Mae'r cyfweliadau yn rhan o'r DVD a lansiwyd ar noson y gyngerdd yn Theatr Felinfach.
Cynhyrchwyd llyfryn i gydredeg â'r project sy'n cynnwys lluniau, gwybodaeth, hanesion ac atgofion o'r cyfnod. Mae'r llyfryn ar werth yn yr ysgolion. Yn ogystal, adeiladwyd safle gwe, sef www.cofio.org.uk. Diolch i Mr David Williams, Llain, Pennant am ei waith yn y maes hwn.
Uchafbwynt y project oedd sioe y bobl ifainc a gynhaliwyd yn Theatr Felinfach. Paratowyd bwffe o fwydydd y cyfnod gan Sefydliad y Merched. Neilltuwyd rhan gynta'r noson i'r ysgolion cynradd ar gyfer eu sioe a seliwyd ar fywyd yn ystod cyfnod y rhyfel. Ail ran y noson oedd sioe ffasiynau dan ofal y Clwb Ffermwyr Ifanc.
Cofio'r Rhyfel: atgofion rhai o drigolion y canolbarth am yr Ail Ryfel Byd
|