Bu taith gerdded Cyngor Henoed Ceredigion 'Cerdded eich ffordd i iechyd' ar Fai 1af yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu yn agos i 40 o bobl i gerdded ar lan afon Aeron i Lanerchaeron. Lansiwyd y daith gan y Cyngorwr Emlyn Thomas, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd lechyd Ceredigion a Chanolbarth Cymru. Pwysleisiodd yr angen i bobl gymeryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, a nododd bwysigrwydd y ffaith fod Cyngor Henoed Ceredigion yn anogi pobl i ddechrau cerdded er eu lles eu hunain ac i wella cyflwr eu iechyd. Nododd hefyd bwysigrwydd y daith fel cyswllt rhwng stad hanesyddol Llanerchaeron a thref Aberaeron. Fel arfer 'roedd y plasdy a'r gerddi mewn cyflwr ardderchog, a gobaith y cerddwyr yw i wneud y daith arbennig yma eto ymhen y flwyddyn. Mae'r grŵp 'Cerdded eich ffordd i iechyd' yn cyfarfod am 11.00 bob bore Mercher tu allan i Neuadd y sir, Stryd y Farchnad, Aberaeron. Bydd croeso i unrhyw un sy'n dymuno dod gyda ni ar ein teithiau. Am ragor o fanylion, cysylltwch â: Jane Raw-Rees, Cydlunydd 'WtW2H' ar rhif ffôn 01970 615151 neu ar e-bost jrr@ceredigionageconcern. fsnet.co. uk
|