91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Aberaeron Dysgwraig Cymraeg o'r Almaen
Awst 2006
Profiad Helgard Krause wrth iddi symud i Geredigion a dysgu Cymraeg.
Fe symudais i Gymru flwyddyn a hanner yn ôl gyda fy mhartner Billy ac ar y dechrau 'doedd dim un o'n ffrindiau yn Lloegr yn deall pam. Dros y blynyddoedd ro'n ni wedi cael llawer o wyliau yng Nghymru a mwynheon ni y bobl, y wlad a'r dull o fyw yng Nghymru, sef, Ceredigion ac Aberaeron yn arbennig. Ymwelodd ein teuluoedd a'n ffrindiau â ni ers hynny a nawr mae pawb yn deall pam 'dy ni wedi symud yma. Mae ardal Ceredigion yn arbennig o hyfryd ac mae pawb eisiau ymweld â ni yn aml.

Bob tro ar ô1 ein gwyliau fe drafodo'n ni y posibilrwydd o symud ond 'roedd ofan arno'n ni byddai ffeindio gwaith yn anodd iawn yn enwedig i fi - 'dy'ch chi'n gweld - cyhoeddu yw fy ngyrfa a 'does dim llawer o gyhoeddwyr yng Nghymru - neu dyna beth o'n i n credu bryd hynny. Yn haf 2004 fe welodd Billy hysbyseb yn y papur, fe chwiliai Cyngor Sir Ceredigion am weithiwr cymdeithasol yn yr adran blant a theuluoedd. Fe edrychai yn ddiddorol iawn, ond yn fwy pwysig i ni 'roedd y swyddfa yn Aberaeron. Ar ô1 llawer o drafod, fe benderfynodd Billy geisio am y swydd ac aetho'n ni ar wyliau i dde Ffrainc am bythefnos. Pan ddaetho'n ni yn ôl, ffeindio'n ni lythyron o Gyngor Sir Ceredigion gyda gwahoddiad i gyfweliad, ac yn y diwedd cafodd Billy y swydd.

Ffair Lyfrau Ffrankfurt
Yn sydyn, 'roedd rhaid i ni ffeindio fflat ac fe benderfynnon ni wario amser dros ŵyl y banc ym mis Awst yn chwilio am rywle i fyw. Ni chwilio'n ni fflat ond fe bryno'n ni hen fwthyn bach rhwng Aberarth ac Aberaeron. 'Roedd hi'n amser i fi benderfynu beth i wneud ynglyn â fy swydd i yn Brighton, achos nid oedden ni eisiau byw ar wahân i'n gilydd am hir. 'Roedd hi'n amser anodd ac ansicr i fi, ac yn and 'roeddwn i'n teimlo yn isel. Yn y cyfamser 'roedd rhaid i fi fynychu Ffair Lyfrau Frankfurt a newidiodd cyfarfod hap fy mywyd.

Fe gwrddais i â dyn ar stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd yn trefnu Ffair Lyfrau Frankfurt dros gyhoeddwyr Cymru. Fe ddwedodd ef wrtha' i fod Cyngor Llyfrau Cymru'n chwilio am berson i lenwi swydd dramor yn eu hadran farchnata. Efallai eich bod wedi dychmygu yn barod - fe geisiais i am y swydd a ches i hi ym mis Hydref. Yn yr un mis cawso'n ni allweddi ein tŷ ni. Ar ôl gwyliau byr yn yr Almaen dros y Nadolig, fe symudo'n ni i Glawdd Dewi ym mis Ionawr.

Dysgu Cymraeg
Fe ddechreuais i weithio yn y Cyngor Llyfrau a 'roedden nhw yn hapus iawn pan oeddwn i eisiau dechrau dysgu Cymraeg. Rhoddwyd llawer o gefnogaeth i fi i ddysgu -'ro'n i n gallu mynd i'r dosbarth yn ystod fy ngwaith a ches i dair wythnos i wneud Wlpan Awst yn haf 2005. Yn y dechrau 'doedd dim hyder gyda fi i ddefnyddio yr iaith yn y swyddfa ond bu un cydweithiwr yn help mawr i fi. 'Roedd amynedd Job gyda hi ac yn aml iawn 'roedd hi'n siarad yn araf â fi gan roi cyfle i fi i ymarfer.

Yn y cyfamser fe gynllunio'n ni i ailadeiladu ein tŷ ni, fe ffeindion ni bensaer ac adeiladwyr, ac ar ôl misoedd fe dderbynio'n ni ganiatâd cynllunio. Fe wnaethon ni feddwl bod popeth yn iawn, ond yn anffodus 'roedden nhw wedi ceisio ein twyllo ni. Ond gyda help ein cymdogion 'rydyn ni wedi ffeindio adeiladwyr newydd a mae'n nhw wedi dechrau yr wythnos hon. Un gair bach am y cymdogion - mae'n nhw wedi bod mor groesawus ac wedi bod yn gefnogol iawn gyda phopeth ac 'rydyn ni'n meddwl y byd ohonyn nhw.

Swydd newydd
Mae pethau eraill wedi newid hefyd - ym mis Ebrill 06 fe ges i swydd newydd - gyda'r Cyngor Llyfrau o hyd. Fe fydda i'n dechrau fel Pennaeth Gwerthu a Marchnata ar y trydydd o Orffennaf. Yn y swydd hon, mae'n bwysig iawn i siarad Cymraeg, a dros y tri mis diwethaf 'dw 'i wedi dysgu Cymraeg yn llawn amser. 'Roedd fy nhiwtoriaid - Carwen Fychan a Llinos Dafis yn arbennig o dda, hebddyn nhw 'doedd hi ddim yn bosib i ddysgu mor gyflym. 'Roeddwn i'n lwcus iawn i astudio gyda thiwtoriaid sy'n mwynhau dysgu gramadeg. Mae'r Almaeneg yn iaith ramadegol iawn ac i fi mae'n haws dysgu iaith os dwi'n deall ei gwneuthuriad.

'Dwi'n fwy rhugl nawr, ond dwi n meddwl ei bod hi'n help mawr ers i fi gael y swydd newydd fod pawb yn y Cyngor yn siarad Cymraeg â fi a dwi wedi gallu siarad â'r cymdogion yn Gymraeg hefyd.

Mae llawer o bobl wedi gofyn os dwi'n meddwl bod Cymraeg yn iaith anodd. 'Dwi ddim yn meddwl bod Cymraeg yn anodd, ond efallai bod y ffaith fy mod i'n Almaenes yn gwneud pethau yn haws, achos dy'n ni'n gyfarwydd â dysgu ieithoedd. Dwi'n enedigol o ardal Rheinland Pfalz a ro'n i'n byw mewn tre fach ar bwys y ffîn â Ffrainc Yn yr ysgol dechreuais i ddysgu Ffrangeg pan oeddwn i'n 11 mlwydd oed a Saesneg pan oeddwn i'n 13 mlwydd oed. Ar ô1 gadael ysgol fe es i i Ferlin i astudio yn y Brifysgol yno ac fe ges i radd (BA) mewn gwleidyddiaeth. Felly fe ges i'r cyfle i astudio ym Mhrifysgol Sussex ac fe wnes i radd MA mewn llenyddiaeth Saesneg.

Cwrddais i â fy mhartner Billy yn 1996 yn Brighton a symudais i mewn gyda hi. 'Roeddwn i'n lwcus iawn i ffeindio gwaith gyda chyhoeddwr mawr (Routledge) yn Llundain ar ôl i fi adael y Brifysgol. Fe arhosais i yn Brighton ac 'roeddwn i'n arfer teithio ar y 13 trên bob dydd i weithio yn Llundain. Ar ôl gweithio am dair blynedd rhoddwyd cyfle i fi i weithio yn Rwsia am flwyddyn. 'Doedd dim Rwsieg gyda fi pan oeddwn i'n dechrau gweithio ond 'doedd dim llawer o bobl oedd yn gallu siarad Saesneg nag Almaeneg yno. 'Roedd rhaid i fi ddysgu yn gyflym iawn ac fe ges i hyfforddiant un i un ddwywaith yr wythnos, ac ar ôl pedwar mis fe wnes i allu cyfathrebu gyda phobl. 'Roedd hi'n gymorth mawr achos 'does dim llawer o bobl yn y siopau na'r marchnadoedd sy'n gallu siarad Almaeneg, Saesneg na Ffrangeg, ond 'roedd rhaid i fi brynu bwyd!

Teithio
Fe ddes i yn ôl i Brighton ac at Billy ac fe ffeindiais i waith gyda chyhoeddwyr RotoVision. Fe deithiais i lawer gyda fy ngwaith ac ymwelais i â llawer o wledydd, sef Tseina, Siapan, Awstralia ac America. Ar ôl 18 mis cynigiwyd swydd newydd i fi yn bennaeth gwerthu a hawlfreintiau. Gweithiais i bron bedair blynedd gyda RotoVision, ond pan ges i gyfle i symud, 'roeddwn i'n fwy na hapus i adael a symud i Gymru.

Ar hyn o bryd mae fy mywyd yn gyffrous iawn - dy'n ni'n byw mewn ardal hyfryd iawn, 'dy'n ni'n ailadeiladu'r tŷ, 'dw'i wedi cael swydd newydd a 'dw'i wedi dysgu Cymraeg, a nawr 'dwi'n gallu siarad â phobl am bethau bob dydd - gobeithio bydda' i'n rhugl cyn bo hir achos mae'n bwysig i fi i allu siarad iaith y wlad ble 'dw i'n byw.

Gan Helgard Krause


Cyfrannwch

Netty, Machynlleth
I fi mae hi'n anodd byw yng Nghymru. Diddorol oedd darllen am adeiladu ty ar gyfer Helgard Krause. Mae hi'n hawdd cwrdd a phobl sy'n garedig yng Nghymru, yn arbennig os mae diddordeb yn yr iaith. Mae hi'n hawdd i ddysgu Cymraeg os mae pobl yn helpu. Tybed sut mae Helgard yn ffeindio'r glaw a chostiau uchel i fyw?


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý