Mae llwyfannu Blodeuwedd yn enghreifftiol o nod a diben y cwmni cydweithredol hwn' medd Euros Lewis, cyfarwyddwr artistig Troed-y-Rhiw.
'Mae ein rhyddid oddi wrth anghenion y theatr fasnachol yn ein galluogi i arbrofi yn ystyrlon: â tharddiadau a thechnegau cymeriadu a pherfformio lawn cymaint â'n hawydd a'n penderfyniad i dyrchu i ganol y cwestiynau erch y mae ymdriniaeth Saunders Lewis o'r stori drasig hon yn eu codi. Cofiwch hefyd mai cwestiynu ffiniau serch, cariad, câr a chymdeithas - holl natur perthyn a'n perthynas â natur - a wna'r ddrama hon. O ganiad corn hela Gronw Pebr hyd at sgrech Blodeuwedd y dylluan, tirwedd real a chwedl-gyfoethog Cymru yw llwyfan y chwarae' medd Euros.
Chwaraeir Blodeuwedd ei hunan gan Anna ap Robert, swyddog ieuenctid theatr fwyaf gwledig Cymru, Theatr Felin-fach. Rhodri a Hedd ap Hywel - meibion ffarm Garn Fach, Llanrhystud - yw ei gwr truenus, Llew a'i chariad o heliwr, Gronw Pebr. Meleri Williams - merch ffarm Clun Coch, Cwrtnewydd - yw ei morwyn, Rhagnell. A Jaci Evans, Nantegryd, Capel Dewi - un o brif ffermwyr llaeth Dyffryn Teifi - yw Gwydion, y dewin a'i chreawdwr.
I fynd i'r afael â sialensau'r ddrama mae'r cwmni wedi bod yn cydweithio â'r cyfarwyddwr Roger Owen (sydd hefyd yn fab ffarm) a'r arbenigwraig corfforol Margaret Ames (gynt o Brith Gof a Dawns Dyfed). 'Mae arwahanrwydd Blodeuwedd oddi wrth ei gwr ac oddi wrth yr holl amgylchfyd cymdeithasol Cymreig yn ganolog i'r gwaith hwn' medd Roger. 'Merch a grewyd o flodau yw hi, heb ei geni'n naturiol ac heb fagwraeth yn y byd. Y mae'r ymchwil corfforol i'w chyflwr a'i chyflyrrau wedi bod yn ganolog i'r cynhyrchiad hwn sy'n seiliedig ar arwahanrwydd Blodeuwedd oddi wrth holl gyd-destun dyn, dynoliaeth a Chymru. Yr unig beth y mae hi'n perthyn iddo go iawn yw'r tirlun.'
Sefydlwyd Cwmni Troed-y-Rhiw dair blynedd yn ôl yn dilyn cyfres o sgyrsiau parthed potensial y ddrama Gymraeg yn festri Troed-y-Rhiw (ym mherfedd gwlad Ceredigion). Ers hynny mae'r cwmni wedi creu 10 o gynhyrchiadau gan gynnwys LINDA (GWRAIG WALDO), MEINI GWAGEDD, EISTEDDFOD CWMFFRADACH, DRWG YN Y CAWS a NOSON BOIS GARN FACH. Ceredigion a Sir Gâr oedd cylch y daith gyntaf ym mis Medi 2005. Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi creu partneraieth â dros 40 o gymdogaethau, y rhelyw ohonynt ym mroydd Cymraeg y gorllewin a'r gogledd. Wedi'r daith fer gychwynnol hon mi fydd y cwmni yn teithio Blodeuwedd yn ehangach drwy Gymru yn ystod y misoedd sydd i ddod. 'Ein nod yw porthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg wrth i ni ymddiried yng nghreadigrwydd chwaraewyr a chynulleidfaoedd yn ddi-wahan' medd Euros.
|