Ar y 5ed o Awst, 2002 hedfanodd Gareth Williams, Enlli, Temple Bar a minnau o Heathrow i Los Angeles yn yr U.D. i ddechrau ac yna ymlaen i Aukland yn Seland Newydd, a chwrdd a Barry Hazelhurst o'r 'Marvin Farm Servies' yn Matamata, ef oedd yn trefnu gwaith ar ein cyfer yn ystod ein cyfnod allan yna. Aros yno am ddwy noson cyn symud i'm swydd gynta yn Hikuai. Yno 'roeddwn yn godro 200 o wartheg a'i lloia. Mae cyfnod lloia yn Seland Newydd o fis Awst i fis Hydref, felly dyma'r amser prysuraf o'r flwyddyn.
Wedi gweithio yno am ddeufis, symud mlân at John Dinan, yn Morrinsville. Bum yno am fis yn godro 270 o wartheg, cyn mynd i Nagtia i fod yn rheolwr ar ffarm yn godro 180 o wartheg, ar fy mhen fy hun am bythefnos.
Erbyn hyn 'roedd yn ddechrau Rhagfyr, a'r tywydd yn braf, ei haf hwy yn Seland Newydd. Daeth cyfle i Gareth a minnau'n awr i gael ychydig o hwyl! Aethom ar daith a elwir y 'Grand Kiwi Tour', teithio De a Gogledd Seland Newydd mewn bws, taith sy'n cymeryd 15 diwrnod, dechrau yn Christchurch a gorffen yn Aukland. 'Roedd 34 ohonom ar y daith, ieuenctid o wledydd fel Awstralia, Canada, America, Lloegr, De Africa, Yr Eidal a Sbaen, a dau Gymro yn eu canol!
Cawsom brofiadau arbennig a fydd yn aros yn y cof am byth: gwneud naid bwnji - yr un lleia' sy'n disgyn 47m - mae'r un mwya'n disgyn 174m, cerdded ar y 'Fox Glacier' sef darn anferth o rew yn filltiroedd o hyd, ac mae'n debyg ei fod yn symud 2 - 3 modfedd y dydd rhyfeddod!!. Taith wedyn ar gwch i weld morfilod a dolffiniaid - gwelsom 3 morfil anferth a nifer fawr o'r dolphiniaid, ac 'roeddwn i'n sal môr! Teithio wedyn ar y lIen i'r Ynys Ogleddol - y môr yn arw, minnau'n sal unwaith eto! Penderfynnu nad ydw i'n fawr o forwr!!
Rhagor o brofiadau cyffrous yma eto - reidio ceffylau a beiciau gyrriant 4 olwyn, rafftio dwr gwyn gan ddisgyn 7m a hynny'n llwyddiannus! Mynd ar 'jet skis' a physgota am 'snapper' sef pysgodyn arbennig yn y rhan yma o'r byd, a'r uchaf-bwynt oedd cael gwneud y 'tandem sky-dive' sef neidio allan o awyren o uchder o 1200 troedfedd, profiad brawychus cyn i'r 'parachute' agor, ond profiad na wna' i byth ei anghofio!
Ar ddiwedd y daith o amgylch y ddwy ynys, ac wedi dau ddiwrnod yn Aukland, ês yn ôl at John Oman yn Morrinsville i ofalu am ei fferm tra'i fod e' a'i deulu yn cael gwyliau. Treuliais ddydd Nadolig yno ar fy mhen fy hun - ond cês wahoddiad i fferm cymydog i gael 'champagne breakfast' - brecwast wedi ei goginio ar y barbiciw.
Symud ymlaen wedyn i redeg dwy fferm arall tra 'roedd y ffermwyr ar eu gwyliau - a gofalu am, a godro 180 o wartheg ar y ddwy fferm. Ar un o'r ffermydd 'roedd clamp o bwll nofio, a chymerais fantais o hwnnw o dro i dro! Wythnos o wyliau wedyn, a chael aros mewn tai haf ('beach houses') oedd yn berchen i ddau o'r ffermwyr y bum yn gweithio iddynt. Mae mwyafrif o ffermwyr Seland Newydd yn berchen ar dai fel yma ar Ian y môr er mwyn cael treulio dau fis o wyliau ynddynt tra bod eu gwartheg yn sych. Yn ystod yr wythnos yma, aethom i gyfarfod Ifor (Gog) ac Irfon Evans o'r maes awyr a bu'r ddau yn aros gyda ni am yr wythnos.
Erbyn hyn, 'roedd fy amser i yn Seland Newydd yn dod i ben a symudais ymlaen i Awstralia ar fy nhaith am adre'. 'Roedd Gareth wedi penderfynu aros yn Seland Newydd am ychydig fisoedd yn rhagor. Cefais gyfle i ymlacio yn Awstralia, ac ymweld â ffarm odro yno oedd yn berchen i un o'r teithwyr a gwrddais ar y trip yn Seland Newydd.
Yna hedfan am adre, a chyrraedd at yr 18fed o Chwefror, diwrnod cyn penblwydd mam! Diolch i Ysgoloriaeth Goffa Gareth Raw-Rees am roi i mi'r cyfle i deithio. Dysgais lawer a chefais lawer o brofiadau na wnaf eu anghofio, ac 'rwy'n siwr y gallaf elwa ohonynt yn y dyfodol wrth i mi setlo i lawr i weithio adre ar y fferm ym Mhentrefelin. 'Rwy'n siwr y bydd rhai o syniadau ffermwyr Seland Newydd yn help i minnau edrych ymlaen i'r dyfodol. Byddwn i'n argymell i unrhyw berson ifanc sy'n bwriadu ffermio gymeryd mantais o ysgoloriaeth fel hon er mwyn ehangu ei orwelion ac ennill profiadau newydd.