Bu fy nghyfaill, Gwilym Thomas Llannon yn pwyso arnaf ers amser i ddanfon ambell air i Llais Aeron ond gan nad ydym yn byw yn yr ardal, mae'n anodd meddwl am rywbeth fyddai o ddiddordeb i'ch darllenwyr. Gan fod yma gannoedd o luniau a'n bod wedi crwydro i leoedd diddorol yng Nghymru, meddyliais y byddai llun o ddiddordeb i chi. Rwy'n cynnwys llun o drip Ysgol Cribyn yn 1965 (gweler uchod). Mae'n siŵr y bydd y bobl sydd yn y llun yn rhyfeddu atynt! Mae'r llun yn dangos grŵp yn bracso yn y môr ar draeth Niwgwl (Newgale) yn sir Benfro. Taith i Dyddewi oedd hi'r flwyddyn honno. Roedd y trip blynyddol yn ddiwrnod mawr a bum yn ceisio cofio i ble yr aethom; Ogofau Craig y Nos ac Abertawe, Dinbych y Pysgod, Sain Ffagan a dinas Caerdydd, Aberystwyth a'r trên bach i Bontarfynach a diwrnod braf iawn ar draeth Tywyn ac ar y tren bach i fyny i Abergynolwyn. Ond y ddau drip a erys gliriaf yn fy nghof yw'r trip olaf, yn dilyn yr afon Aeron o'i tharddiad yn Llyn Eiddwen i lawr i'r aber yn Aberaeron a'r diwrnod braf iawn a gawsom yn y Ceinewydd, pan ddaeth siarc (Basking Shark) 12 treodfedd o hyd, o fewn ychydig lathenni i'r lan pan oedd y llanw i mewn ac nid oedd neb yn ein credu wedi inni ddod adre. Erthygl gan W. D. Llewelyn
|